Owen Smith: 'Glynu wrth fy egwyddorion ynglŷn â Brexit'

Disgrifiad o'r llun, Owen Smith yn dweud bod yn rhaid i Lafur wneud mwy na chefnogi 'Brexit meddal'

Dywed Owen Smith ei fod wedi "glynu wrth ei egwyddorion" drwy alw am ail refferendwm ar Brexit.

Nos Wener cafodd Mr Smith ei ddiswyddo o fainc flaen Llafur gan Jeremy Corbyn wedi iddo ysgrifennu erthygl ym mhapur newydd y Guardian yn galw am ail bleidlais ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd cyn-lefarydd Llafur ar Ogledd Iwerddon bod Jeremy Corbyn wedi gwneud "camgymeriad" wrth ei ddiswyddo.

Dywedodd hefyd bod yn rhaid i'r Blaid Lafur "newid ei safbwynt" ar Brexit.

'Argyfwng gwaethaf ers cenedlaethau'

Wrth siarad am ei ymadawiad ar raglen Today fore Sadwrn dywedodd Owen Smith: "Dwin meddwl ei fod yn gamgymeriad, gan Jeremy Corbyn yn enwedig, sydd wastad wedi deall gwerth pobl sy'n glynu wrth egwyddorion.

"Mewn gwirionedd dyna'r cyfan dwi wedi ei wneud. Rwyf wedi glynu wrth fy egwyddorion."

Ychwanegodd Mr Smith mai gadael yr UE oedd "yr argyfwng gwaethaf i'n gwlad ei wynebu ers cenedlaethau lawer" a'i fod yn credu y dylai Llafur wrthwynebu hynny.

"Dyma'r tro cyntaf," meddai, "o fewn cof i fi weld llywodraeth yn bleidiol i bolisi y maent yn gwybod a fydd yn crebachu ein heconomi ac yn cael effaith ar fywoliaeth pobl a dwi methu deall pam fod Llafur yn cefnogi hynny."

'Siomedig'

Mae aelodau o'r Blaid Lafur wedi beirniadu penderfyniad Mr Corbyn i ddiswyddo Mr Smith. Yn eu plith mae'r Arglwydd Hain sydd wedi disgrifio'r penderfyniad fel "carthiad Stalinaidd".

Mae'r AS Llafur Chuka Umunna wedi dweud ei fod yn benderfyniad "anarferol" i sacio gweinidog yr wrthblaid am leisio ei farn ar bolisi Brexit - polisi sydd â chryn gefnogaeth o fewn y Blaid Lafur.

Mae Anna Turley AS a'r cyn weinidog Ben Bradshaw hefyd wedi mynegi eu siom.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Yn 2016 ymgeisiodd Jeremy Corbyn ac Owen Smith am arweinyddiaeth y blaid

Ond roedd ysgrifennydd cartref yr wrthblaid Diane Abbott yn fwy beirniadol. Er bod Mr Smith "yn gydweithiwr gwerthfawr" dywedodd nad oedd modd iddo barhau ar fainc flaen Llafur yn lleisio barn nad oedd yn "bolisi y Blaid Lafur".

Dywedodd Ms Abbott y byddai modd i Mr Smith gyfrannu i'r drafodaeth ar Brexit ar y meinciau cefn.

Mae Mr Smith wedi'i ddisodli fel ysgrifennydd Llafur Gogledd Iwerddon gan Tony Lloyd - gweinidog tai, cymunedau a llywodraeth leol yr wrthblaid.

Dywedodd Mr Corbyn fod gan Mr Lloyd "brofiad helaeth" a'i "fod yn ymrwymedig i sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon" ac i wneud yn siŵr fod y cytundeb datganoli yno eto yn weithredol.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Tony Lloyd a arferai fod yn weinidog cysgodol tai, cymunedau a llywodraeth leol

Yn yr erthygl yn y Guardian fel alwodd Mr Smith ar y Blaid Lafur i gefnogi aelodaeth o farchnad sengl yr UE.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Mr Corbyn fod ei blaid am i'r DU fod yn aelod parhaol o'r undeb tollau wedi Brexit.

Mae Mr Smith yn mynnu bod yn rhaid i Llafur wneud mwy na "chefnogi Brexit meddal a chaniatáu ffin feddal yn Iwerddon".

Nododd: "Os ydym yn mynnu gadael yr UE dim ond un ffordd sydd yna o anrhydeddu gofynion Cytundeb Gwener y Groglith sef aros yn aelod o'r undeb tollau a'r farchnad sengl."

Dywedodd ysgrifennydd Brexit Llafur Syr Keir Starmer nad oedd y blaid yn galw "am refferendwm ar hyn o bryd".