Â鶹ԼÅÄ

Y profiad o fagu plentyn ag awtistiaeth

  • Cyhoeddwyd
niaFfynhonnell y llun, Nia Evans

Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth rhwng 26 Mawrth a 2 Ebrill.

Mae Nia Wyn Evans o Ddolgellau yn fam i Dafydd Morgan, sydd ag awtistiaeth. Mi wnaeth Nia ddychwelyd i'r brifysgol i astudio effaith awtistiaeth ar blant ac, erbyn hyn, mae hi'n athrawes arbenigol yn y maes.

Rhannodd Nia ei phrofiadau gyda Cymru Fyw:

Dafydd Morgan yw fy myd!

Mae'n 10 oed, yn gymeriad, yn annwyl, yn ddireidus, yn onest iawn ac yn blentyn gydag Awtistiaeth.

Cafodd Dafydd ei ddiagnosio gyda'r cyflwr ddyddiau cyn ei benblwydd yn dair oed yn dilyn misoedd o apwyntiadau ac arsylwadau gan therapyddion iaith, pediatryddion a seicolegwyr clinigol.

Roedd y diagnosis yn ergyd enfawr imi gan mai'r unig ymwybyddiaeth oedd genai o Awtistiaeth oedd y ffilm 'Rainman'. Roeddwn i'n cwestiynu, pam fi? Pam Dafsi? Roedd fy myd wedi chwalu…

Fel mam, roedd gen i obeithion mor uchel i fy mhlentyn bach, yn addysgol ac yn gymdeithasol ac mi es i drwy gyfnod tywyll o alaru am y plentyn 'perffaith' oedd genai yn fy meddwl ac hefyd yr holl ansicrwydd am y dyfodol.

Fyddai Dafydd byth yn siarad? Fyddai Dafydd yn gallu mynychu ysgol prif lif? Roedd genai'r holl gwestiynau nad oedd neb yn gallu ateb!

Ffynhonnell y llun, Nia Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn fabi

Dwi'n edrych yn ôl ac yn meddwl, sut nes i ymdopi efo magu Dafydd fy hun a gweithio llawn amser, pan roedd ei ymddygiad yn gallu bod yn heriol iawn ar adegau! Ond, y gwirionedd ydi - dwi wedi ymdopi.

Dwi'n licio meddwl mod i'n berson positif felly ar ôl derbyn fod genai blentyn gydag Awtistiaeth nes i gymryd yr agwedd, reit Nia, fedrwn ni ddim newid dim felly 'get on with it!'. Ac yn hytrach na 'pam fi?' 'pam ddim fi?' ac efallai oherwydd yr agwedd bositif yma, mae Dafydd wedi troi allan yn fab dwi yn hynod falch ohono.

Ffynhonnell y llun, Nia Evans

Mae'r Awtistiaeth yn gwneud Dafs yn gymeriad unigryw a phoblogaidd iawn yn ei gynefin - mae pobl Dolgellau yn ofalus iawn ohono!

Mae Dafydd bellach ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Bro Idris ac er ei fod wedi cael cyfnodau anodd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n llwyddo cystal â'i gyfoedion (gyda mynediad at gymhorthydd llawn amser).

Mae'n trosglwyddo un diwrnod yr wythnos i'r safle uwchradd er mwyn ei baratoi pan fydd yno yn llawn amser, ac yn rhoi cyfle iddo ymgyfarwyddo gyda'r adeilad a'r holl athrawon.

Ffynhonnell y llun, Nia Evans

Mae Dafs yn blentyn penderfynol iawn ac yn ysu am gael bod fel ei gyfoedion! Dwi, fel mam, yn trio paratoi Dafydd i'r byd mawr, ac yn ceisio ei wneud mor annibynnol â phosib.

Fedra i ddim ei 'wrapio mewn gwlân cotwm' achos fydd y byd mawr ddim yn ei warchod. Fydda i ddim o gwmpas am byth - sydd yn anodd ofnadwy i feddwl, ond dwi yn ceisio rhoi y sgiliau bywyd angenrheidiol i Dafydd i ymdopi o ddydd i ddydd.

Efallai o ddiddordeb...

  • (gwefan S4C)

Yn sicr mae diffyg ymwybyddiaeth o'r cyflwr - mae'n cael ei adnabod fel 'the hidden disability'. Mae fy rôl i fel athrawes arbenigol Awtistiaeth i Feirionnydd a Dwyfor yn fy ngalluogi i gefnogi staff a disgyblion yn yr ysgolion trwy rannu strategaethau addas ar gyfer cefnogi plant ar y sbectrwm a cheisio codi ymwybyddiaeth.

Yn dilyn cwblhau cwrs ôl-radd mewn Awtistiaeth plant ym Mhrifysgol Birmingham, dwi hefyd yn athrawes gyda gofal o'r Uned Arsylwi Blynyddoedd Cynnar yn Nolgellau.

Rwy'n cael y pleser o weithio gyda phlant ifanc iawn gydag Awtistiaeth yn ddyddiol ac yn cefnogi'r teuluoedd.

Dwi'n fwy na pharod i rannu gyda'r rhieni mod i'n fam i blentyn ar y sbectrwm, sydd wedi bod trwy gyfnodau anodd ac yn deall eu pryderon ac ofnau, ac yn ceisio eu darbwyllo i ganolbwyntio ar rwan a pheidio edrych gormod i'r dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Nia Evans
Disgrifiad o’r llun,

Perthynas agos: Nia a'i mab, Dafydd

Nid yw bywyd bob amser yn hawdd i Dafydd, ond mae'n ymdopi… mae'n dod â phleser i fy mywyd ac eraill yn ddyddiol a dwi'n diolch i Dduw amdano.

Yng nghyd-destun yr holl bryderon a'r ansicrwydd oedd genai pan oedd yn ifanc, mae Dafydd bellach yn siarad pymtheg y dwsin, yn mynychu ysgol prif lif ac yn fwy na dim, yn hollol berffaith!

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol