Â鶹ԼÅÄ

Rhybudd am effaith Brexit ar y diwydiant awyrofod

  • Cyhoeddwyd
diwydiant awyrofod
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 6,000 o weithwyr yn cyhyrchu adennydd yn ffatri Airbus ym Mrychdyn

Gallai'r diwydiant awyrofod gael ei niweidio petai newidiadau Brexit yn arwain at oedi i gyflenwadau trawsffiniol, yn ôl Aelodau Seneddol.

Mae'r diwydiant yn cyflogi 12,000 o bobl yng Nghymru, gyda throsiant o dros £5bn.

Aelodau o'r pwyllgor Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant wnaeth y sylwadau mewn adroddiad newydd.

Maen nhw'n galw ar weinidogion Llywodraeth Prydain i sicrhau na fydd ansicrwydd am ddyfodol y berthynas gyda'r UE yn arwain at oedi mewn buddsoddiad i'r diwydiant.

Mae'n ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym, gyda safleoedd cynnal a chadw injans a gwneuthurwyr seddi yng Nghymru, yn ogystal â'r miloedd sy'n cael eu cyflogi yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae GE Aviation Wales yn Nantgarw ger Caerdydd yn gyflogwr pwysig ym maes cynnal a chadw injans

Fe gasglodd ASau dystiolaeth gan amrywiaeth eang o fudiadau a dod i'r casgliad na fyddai tollau rhwng y DU ac Ewrop yn achos pryder mawr yn dilyn Brexit, gan y byddai'r DU yn rhan o gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar fasnach hedfan sifil.

Fodd bynnag, fe ddaethon nhw i'r casgliad y gallai gwaith papur ychwanegol niweidio'r diwydiant.

Mae'r diwydiant awyrofod yn un cynhyrchiol iawn yn y DU, gyda gwerth y cynnyrch am bob gweithiwr 18% yn uwch nag yn achos swyddi gweithgynhyrchu eraill, a 49% yn uwch na'r economi yn ei chyfanrwydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn dod i'r casgliad na fyddai'r diwydiant yn elwa o ganlyniad torri'n rhydd o'r rheoliadau presennol, a'i fod o fudd i'r DU aros o fewn yr Asiantaeth Diogelwch Awyr Ewropeaidd, sy'n goruchwylio diogelwch teithwyr.

Mae'r canfyddiadau'n atgyfnerthu galwadau gan brif gorff masnach y diwydiant, yr ADS i barhau'n aelodau o'r asiantaeth, oherwydd pryderon y gallai'r newidiadau effeithio ar deithiau awyr i ac o'r DU ar ôl gadael yr UE.