Canslo hanner marathon Casnewydd am yr eildro

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae hanner marathon Casnewydd wedi ei chanslo am yr eildro eleni, oherwydd rhybuddion o dywydd gaeafol ddydd Sul.

Cafodd y ras ei chanslo bythefnos yn ôl pan ddisgynnodd eira trwm gan achosi trafferthion mewn sawl ardal.

Mae gan y Swyddfa Dywydd rybudd oren o eira a gwyntoedd cryfion ar gyfer ardaleodd yn y de dros y penwythnos a dywedodd y trefnwyr nad oedd dewis ganddyn nhw ond gohirio eto.

Dywedodd datganiad ar eu tudalen Facebook: "Gyda chalon drom, rydyn ni unwaith eto wedi gorfod canslo Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd.

"Mae diogelwch PAWB yn hollbwysig, a gyda'r rhagolygon presennol o eira, rhew a gwyntoedd yn chwythu â thymheredd o -10, yn syml, allwn ni ddim â bwrw mlaen.

"Yn amlwg, mae gennyn ni lawer i'w wneud heddiw, felly fe ddown ni a'r diweddaraf i chi o fewn y dyddiau nesaf.

"Mae'n wir ddrwg gyda ni."