Conwy'n newid i gasglu sbwriel pob pedair wythnos

Ffynhonnell y llun, George Clerk

Bydd biniau sbwriel yn cael eu casglu unwaith pob pedair wythnos ar draws Sir Conwy o fis Medi ymlaen.

Yr awdurdod fydd y cyntaf yng Nghymru i newid i gasgliadau misol, yn dilyn cynllun peilot mewn rhai rhannau o'r sir dros yr 18 mis diwethaf.

Roedd rhai cynghorwyr wedi gofyn i'r cabinet ohirio gwneud penderfyniad ar y mater nes bod mesurau mewn grym i helpu trigolion ddelio â'r system newydd.

Ond clywodd y cabinet ddydd Mawrth y byddai popeth mewn lle erbyn mis Medi.

Disgrifiad o'r llun, Roedd tua 10,000 o dai yn rhan o'r cynllun prawf

Mae'r help ychwanegol fyddai ar gael i drigolion yn cynnwys cynnig un casgliad mwy na'r arfer pob blwyddyn, bocsys ailgylchu mwy ac opsiwn i adael un bag ychwanegol o sbwriel dros y Nadolig.

Dywedodd yr aelod cabinet dros yr amgylchedd, ffyrdd a chyfleusterau, Don Milne: "Bydd yn cymryd ychydig fisoedd i wneud y trefniadau ar gyfer newidiadau, ac unwaith mae popeth wedi'i gwblhau byddwn yn dosbarthu'r manylion llawn a chalendrau i bob tÅ· fydd yn newid eu casgliad."