Cyngor ar sut i ofalu am gleifion trawsryweddol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jenny Burgess fod pobl drawsryweddol yn poeni sut fywyd y byddai ganddynt pe baen nhw'n byw gyda dementia

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi paratoi canllawiau i staff sy'n gofalu am bobl drawsryweddol sydd â dementia.

Mae'r bwrdd iechyd yn credu mai nhw yw'r cyntaf yn y DU i ddatblygu canllawiau o'r fath.

Maent wedi cael cyngor gan bobl drawsryweddol ar sut i ddelio â chleifion sy'n drysu rhwng y rhyw y maent yn dymuno bod a'r rhyw adeg eu geni.

Y nod yw sicrhau bod "pobl drawsryweddol yn derbyn gofal iechyd urddasol a thosturiol".

  • Y llynedd, cafodd 75 o bobl yng Nghymru eu cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer triniaeth hunaniaeth rywedd;
  • Yn y cyfamser mae ystadegau diweddar yn dangos mai dementia bellach yw prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn credu y bydd galw am y cynlluniau newydd - mae disgwyl iddynt gael eu cyflwyno i staff yn ystod yr wythnosau nesaf.

Fe ddechreuodd Jenny Burgess, 66 oed o Gei Connah, ei thriniaeth hunaniaeth rywedd yn 2012 ac fe gafodd lawdriniaeth y llynedd.

Dywedodd: "Dwi erioed wedi teimlo mor hapus a bodlon ag ydw i nawr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Dwi i ac eraill o fewn y gymuned drawsryweddol yn poeni sut fywyd byddai gennym petaem yn datblygu dementia neu pe baem angen gofal yn fy mlynyddoedd olaf.

"Mae yna rai straeon echrydus am sut y mae rhai pobl traws wedi cael eu trin a hynny oherwydd rhagfarn ac anwybodaeth.

"Mae'n drist fod pobl traws yn disgwyl cael eu trin yn annheg."

Mae Ms Burgess wedi cynorthwyo i lunio'r canllawiau.

"Dwi'n gobeithio y bydd y canllawiau yn cael eu rhoi i bob aelod o staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd," meddai.

'Sioc'

Dywedodd Sean Page sy'n nyrs ymgynghorol dementia ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Er mwyn i ni roi'r gofal gorau i bobl sydd â dementia rhaid i ni wybod beth yw eu hanghenion seicolegol ac y mae hynny yn cynnwys hunaniaeth, agosatrwydd a chysur.

"Wrth i'r dementia waethygu mae'n bosib na fydd person yn cofio beth yw ei ryw presennol ac weithiau maent yn cael sioc o weld y newidiadau corfforol i'w cyrff.

"Mae hyn yn gallu achosi dryswch a gwewyr. Efallai na fyddant yn deall pam eu bod yn cael eu hadnabod fel pobl sy'n perthyn i ryw arbennig am nad ydynt yn cofio eu bod wedi dewis hynny."

Bydd y canllawiau yn cynnig cyngor ar sut i weithio gyda gofalwyr a theulu pobl drawsryweddol sydd â dementia.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sean Page yn dweud y bydd y canllawiau yn rhoi llais i bobl drawsryweddol sydd â dementia

Maent hefyd yn rhoi cyngor ar sut i helpu person trawsryweddol barhau i ymddangos fel yr oedd yn dymuno cyn iddo ddatblygu dementia.

Dywedodd Margaret Henson, is-gadeirydd a hyrwyddwr buddiannau henoed ym Mwrdd Betsi Cadwaladr: "Mae'r canllawiau yma yn brawf pendant beth all y GIG ei wneud pan fo staff yn gwrando ar anghenion cleifion.

"Dwi'n gobeithio y byddant yn newid y ffordd y mae'r GIG yng ngogledd Cymru yn cefnogi y grŵp unigryw yma o bobl - grŵp o bobl sy'n fregus ac yn hŷn."