Cyhuddo cynllun Metro o roi ffafriaeth i Gaerdydd

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Sport

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o roi'r gorau i uwchraddio rheilffordd Glyn Ebwy tra'i bod yn bwrw mlaen â chynllun "trên bwled i'r Bae".

Plaid Cymru sy'n gwneud yr honiad ar ôl gweld cyfres o fapiau'n amlinellu'r cynigion ar gyfer Metro De Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates fod y llywodraeth wedi ei hymrwymo'n llwyr i uwchraddio rheilffyrdd yn y cymoedd, ond ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud beth fydd yn y cytundeb terfynol.

Mae dau gwmni o'r sector preifat yn cystadlu i adeiladu'r Metro a rheoli gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau o fis Hydref ymlaen.

Mae'r Metro yn cael ei weld fel modd o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r Cymoredd.

Yn ôl un o'r mapiau, mae'r cynllun i drydaneiddio'r lein rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy wedi ei ddiystyru am y tro.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Un o'r mapiau sy'n awgrymu rhoi cynlluniau ar gyfer lein Glyn Ebwy o'r neilltu am y tro

Mae'r map yn rhan o adroddiad amgylcheddol gafodd ei gyhoeddi ar-lein gan Trafnidiaeth Cymru, cwmni nid-am-elw sydd wedi ei sefydlu gan y llywodraeth i reoli'r cytundeb rheilffyrdd.

Fel y cam cyntaf yn natblygiad y Metro, mae disgwyl y bydd llinellau rheilffyrdd yng Nghaerdydd yn cael eu haddasu ar gyfer trenau ysgafnach, gan gynnwys y llinell rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.

Yn y Senedd dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price fod prosiectau eraill oedd wedi eu lliwio yn goch ar y map - prosiectau maes awyr Caerdydd a Maesteg i Ben-y-bont - nawr wedi eu rhoi o'r neilltu.

Dywedodd Mr Price: "Pam na chawson ni wybod am y penderfyniadau polisi yma fel ein bod yn gallu eu trafod nhw, ac fel bod y bobl y mae'r gwasanaethau rheilffyrdd yma'n eiddo iddyn nhw... yn cael yr hawl i fynegi eu barn ar y weledigaeth, ac ai dyma'r blaenoriaethau yr oedden nhw eisiau eu gweld?"

Cyhuddodd y llywodraeth o "ddiffyg tryloywder" ac o fethu a gwireddu'r addewidion i drydaneiddio llinellau'r cymoedd.

Gwadu'r honiad wnaeth Mr Skates, gan ddweud fod y llywodraeth wedi ymgynghori ar gyhoeddi prif amcanion y Metro.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Ychwanegodd ei fod yn aros am amcanbris gan y ddau fidiwr, gan ychwanegu: "Fe fyddai'n rhy gynnar i mi nodi pa brosiectau fydd yn mynd yn eu blaenau, ac ar ba ffurf, o fewn cytundeb nesaf Cymru a'r Gororau a datblygiad y Metro tan y byddwn wedi gwobrwyo (y cytundeb).

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i uwchraddio leiniau craidd y cymoedd fel rhan o weledigaeth y Metro fel bod pobl yn gallu teithio'n fwy cyson."

Wrth amlinellu'r gwelliannau y mae'r llywodraeth am eu gweld, dywedodd Mr Skates fod darparu o leia bedair taith yr awr o fewn y Metro yn "briodol".

Mae cyfrifoldeb am linellau craidd y cymoedd yn cael eu datganoli i Gymru, ond bydd Llywodraeth DU yn parhau'n gyfrifol am y cledrau ac isadeiledd gweddill y rhwydwaith.

Dywedodd Mr Skates eu bod wedi derbyn dau gynnig "o'r radd flaenaf" am y cytundeb gan MTR a KeolisAmey. Fe dynnodd dau fidiwr arall, Abellio ac Arriva, eu cynigion yn ôl.

Bydd y cynllunio manwl yn digwydd wedi gwobrwyo'r cytundeb ym mis Mai, meddai Mr Skates.