Galw am gysondeb i sganiau canser y prostad

Disgrifiad o'r llun, Roedd Steve Roberts yn un a dalodd £900 am y prawf

Mae cleifion canser y prostad yn y gogledd yn galw am sgan sydd ar gael am ddim ar y GIG mewn dwy ardal arall yng Nghymru i fod ar gael i bawb.

Fe wnaeth rhai dynion sy'n cael eu trin yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddewis talu £900 am sgan cyn-biopsi i ganfod os oedd y canser ganddyn nhw.

Dywedodd y bwrdd iechyd nad yw'r sgan - mpMRI - yn argymhelliad ar hyn o bryd yn y canllawiau cenedlaethol.

Ond ychwanegodd llefarydd bod y defnydd o'r sgan yn destun adolygiad.

Nawr mae dau ddyn a dalodd am y sgan wedi dweud y dylai fod ar gael i bawb sy'n disgwyl am ddiagnosis.

Cost o £900

Mae elusen Prostate Cancer UK wedi dweud y gall mpMRI cyn biopsi wella diagnosis yn sylweddol.

Yn Lloegr mae'r sgan yn cael ei ddefnyddio mewn prawf sy'n ceisio cwtogi amseroedd diagnosis o chwe wythnos i ddyddiau yn unig.

Fe wnaeth Stuart Davies, cyn-gynghorydd sir o Langollen, gynnig biopsi arferol gan feddygon, ond dewisodd gael y sgan £900.

Dywedodd fod rhai dynion sy'n disgwyl profion ddim yn gwybod y gallai sgan o'r fath helpu gyda'r diagnosis, ond nid pawb fyddai'n medru ei fforddio.

Disgrifiad o'r llun, Mae Stuart Davies o'r farn y dylai'r prawf fod ar gael am ddim i bawb yng Nghymru

Ychwanegodd Steve Roberts o Sir y Fflint: "Os nad y'ch chi'n medru talu, rydych chi'n cael eich gadael adre yn meddwl tybed yw'r canser ganddoch chi," gan ychwanegu nad yw'r prawf arferol mor ddibynadwy â'r sgan MRI.

Roedd y ddau ymhlith nifer o ddynion a ddaeth i wybod yn ddiweddarach bod byrddau iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn cynnig y prawf am ddim.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell mpMRI ar hyn o bryd, ond ei fod yn destun adolygiad.

Os fydd y cyngor yn newid, yna fe fyddai disgwyl i'r holl fyrddau iechyd ei ddarparu.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod yn cynnig ystod eang o brofion, gan gynnwys mpMRI, yn unol â chanllawiau NICE.

Ond ychwanegodd y bwrdd ei fod yn adolygu'r defnydd er mwyn rhoi'r dewis gorau i gleifion prostad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn cefnogi amrywiaeth yn y ddarpariaeth o wasanaeth ar draws Cymru.

"Fodd bynnag rydym yn cydnabod bod clinigwyr weithiau â barn wahanol am dystiolaeth cyn bod canllawiau NICE yn cael eu cyhoeddi."