Lluniau: Cân i Gymru 2018

Mae'r cystadlu wedi dod i ben yng nghanolfan Pontio ym Mangor wrth i'r gân 'Cofio Hedd Wyn' ddod i'r brig yn Cân i Gymru 2018.

Roedd Cymru Fyw yno'n dyst i'r cyfan. Dyma rai o uchafbwyntiau'r noson...

Disgrifiad o'r llun, Y criw buddugol tu ôl i'r gân 'Cofio Hedd Wyn'
Disgrifiad o'r llun, Y perfformwyr yn llwyddo i fwynhau eu hunain gefn llwyfan
Disgrifiad o'r llun, Y cyflwynwyr Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur wrthi'n ymarfer yn y prynhawn
Disgrifiad o'r llun, Dyma leoliad y gystadleuaeth heno, canolfan Pontio ym Mangor
Disgrifiad o'r llun, Roedd cefnogwyr Mared Williams ym Mangor 'en masse'
Disgrifiad o'r llun, Y Cowboi Aled Wyn Hughes, cyfansoddwr 'Ysbrydion', yn cuddio'n y cysgodion gefn llwyfan...

Hefyd o ddiddordeb:

Disgrifiad o'r llun, Y bytholwyrdd Mei Gwynedd, un o'r cerddorion cefndirol ar y llwyfan
Disgrifiad o'r llun, Pheden. Tesni o Pheena a Non o Eden oedd y lleisiau cefndirol ar y noson
Disgrifiad o'r llun, Brodyr go iawn? Y cyfansoddwr Owain Glenister a Ragsy, canwr 'Ti'n Frawd i Mi'
Disgrifiad o'r llun, Ie, hi! Hana Evans, o Sully, yn perfformio ei chân 'Dim Hi' mewn môr o binc
Disgrifiad o'r llun, Y cyfansoddwr Gwynfor Dafydd a'r canwr Steffan Rhys Hughes yn rhyfeddu ar rai o sylwadau #CiG2018?
Disgrifiad o'r llun, Dafydd Dabson a'i fam Anna Georgina, cyfansoddwyr 'Dwi'm yn Dy Nabod Di'

Ymunwch yn y drafodaeth ar Twitter drwy ddefnyddio #CiG2018