Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Galw am gynllun newydd i fyfyrwyr astudio dramor

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn darllen mapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 7,595 o bobl o Gymru wedi cymryd rhan yng nghynllun Erasmus+ ers 2014

Fe ddylai'r DU "ystyried o ddifrif" sefydlu cynllun astudio dramor ei hun yn lle cynllun yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl pennaeth prifysgol fwyaf Cymru.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan ei fod yn "gwbl o blaid" myfyrwyr yn astudio a gweithio dramor ond bod rhaglen Erasmus+ yr UE yn "gymharol anhyblyg".

Nid yw pennaeth Prifysgol Caerdydd yn credu'n bendant y dylai'r DU adael Erasmus+ ond y byddai'n "werth chweil" edrych ar opsiynau eraill.

Cyhoeddodd y prif weinidog ym mis Rhagfyr y bydd y DU yn parhau i gymryd rhan yn y cynllun presennol hyd nes y bydd yn dod i ben yn 2020.

"Fe fyddai mynediad at unrhyw raglenni newydd yn y dyfodol yn fater ar gyfer y trafodaethau," yn ôl llefarydd Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru barhau i fod yn rhan o'r rhaglen, .

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Colin Riordan bod cynllun Erasmus+ yr UE yn "gymharol anhyblyg"

Fel rhan o raglen Erasmus+, mae myfyrwyr yn astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall am rhwng tri a 12 mis fel rhan o'u gradd, gyda miliynau o fyfyrwyr ar draws y cyfandir wedi cymryd rhan yn y cynllun ers iddo ddechrau yn 1987.

Yn ogystal â bod yn rhaglen gyfnewid ar gyfer myfyrwyr prifysgol, mae hefyd yn cwmpasu ysgolion, hyfforddiant galwedigaethol a diwygio addysgol.

Ers 2014, mae Cymru wedi derbyn bron i €30m o'r rhaglen, sydd wedi cefnogi 187 o brosiectau, tra bod 7,595 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun.

'Y byd i gyd'

Gyda'r DU yn bwriadu gadael yr UE ym mis Mawrth 2019, dywedodd yr Athro Riordan y byddai "angen i'r wlad fod yn agored i'r byd" ar ôl Brexit.

Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydw i'n hollol o blaid cynllun sy'n galluogi myfyrwyr i astudio dramor ac yn caniatáu myfyrwyr o bob cwr o'r byd i ddod yma i astudio gyda ni.

"Ond mae angen i ni feddwl amdano nid yn unig o ran yr UE ond y byd i gyd.

"Felly, mae China, mae India, mae Awstralia, mae Canada, Seland Newydd, mae gwledydd ledled y byd y bydden ni efallai am ddanfon ein myfyrwyr yn ogystal â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

"Felly, dwi'n credu bod angen i ni o leiaf ystyried y posibiliadau o edrych ar ffordd wahanol o gynllunio'r fath raglen."

Mynegodd yr Athro Riordan bryder hefyd y "bydd gennym ni ddim ond ychydig iawn o ddweud am yr hyn y mae'r rhaglen honno'n ei olygu" ar ôl i'r DU adael yr UE, a hefyd bu'n beirniadu'r orfodaeth bod myfyrwyr yn mynd dramor am o leiaf dri mis.

Disgrifiad,

Dywedodd Dr Hywel Ceri Jones y byddai gadael y cynllun yn "wastraff enfawr"

Dywedodd Dr Hywel Ceri Jones, cyd-sylfaenydd y rhaglen Erasmus gychwynnol a chyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd, y gall Cymru wynebu "mynydd i'w ddringo" .

Mae cyn-ddiplomydd yr undeb, sydd hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Athro Riordan, yn beirniadu syniad pennaeth Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Jones: "Yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhedeg y rhaglen ond mae'n gwbl ddibynnol ar benderfyniadau prifysgolion unigol.

"Maen nhw'n penderfynu pa raglenni y byddan nhw'n eu creu, pa fyfyrwyr y maen nhw'n mynd i anfon, pa fyfyrwyr y byddan nhw'n eu derbyn.

"Yr hyn yr wyf yn poeni mwy amdano yw'r syniad mai'r hyn sy'n bwysig yw anfon myfyrwyr allan o'r Deyrnas Unedig.

"Rwy'n credu ei fod yr un mor bwysig, hyd yn oed yn bwysicach fyth, i gael myfyrwyr a staff yn dod i mewn i'n prifysgolion, gan greu awyrgylch ryngwladol, Ewropeaidd yn ein prifysgolion fel y gall pob myfyriwr profi'r dimensiwn rhyngwladol."

Profiadau myfyrwyr

"Os da chi'n dysgu iaith, dwi'n meddwl ei bod yn hanfodol bod chi'n gallu mynd mas i'r wlad chi'n dysgu."

Dyna'n union y mae Rebecca Martin, 20, wedi gwneud fel rhan o raglen Erasmus+.

Mae'r fyfyrwraig sy'n astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe yn treulio blwyddyn yn dysgu mewn ysgol gynradd yn ninas Huelva yn ne Sbaen.

Yn wreiddiol o dref Arberth yn Sir Benfro, fe ddywedodd hi nad oedd hi'n gallu deall neb ar ei diwrnod cyntaf yn y ddinas ond ei bod yn "gallu trafod yn iawn" erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ieuan Bancroft bod y profiad o astudio dramor "yn rhoi llawer yn fwy i chi"

Newydd ddod 'nôl o dreulio pum mis yn astudio ym mhrifysgol yn ninas Nantes yn Ffrainc y mae Ieuan Bancroft, sy'n wreiddiol o Gaerdydd.

Dywedodd y gŵr 21 mlwydd bod ei "Ffrangeg wedi gwella'n sylweddol" a bod astudio dramor "yn rhoi llawer yn fwy i chi".

"Dwi'n bendant wedi datblygu fel person, nid jyst fy sgiliau ieithyddol," meddai'r myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.