Neil McEvoy yn mynnu gweld e-byst gan ACau Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru ar ddeall fod Neil McEvoy wedi gofyn am gopïau o negeseuon sydd gan sawl AC ac aelodau staff Plaid Cymru, gan gynnwys yr arweinydd Leanne Wood, amdano.
Mae'r AC annibynnol eisiau gweld e-byst a llythyrau, gan gynnwys unrhyw farn sydd yn cael ei fynegi amdano.
Fe ddaeth y cais ychydig ddyddiau cyn iddo gael ei ddiarddel o grŵp y blaid yn y Cynulliad, ac mae'n debyg fod hynny wedi cyfrannu at y penderfyniad.
Dywedodd Mr McEvoy y dylai'r blaid ddelio â'r cwynion yn ei erbyn yn hytrach nag "anfon fy ngwybodaeth breifat at y cyfryngau a lobïwyr".
'Diffyg ymddiriedaeth'
Mae ffynhonnell wedi dweud fod ei hawl i'w ddata ei hun wedi ei "barchu" a'u bod yn cydymffurfio â'r mater "yn llawn".
Ond ychwanegodd y ffynhonnell fod y cais, gafodd ei wneud dan gyfraith amddiffyn data oedd yn ymestyn i ddyfeisiadau personol yr unigolion hynny, wedi "crisialu'r diffyg ymddiriedaeth" oedd gan y grŵp a Mr McEvoy.
Mae Mr McEvoy yn parhau i fod yn aelod o Blaid Cymru ond "oherwydd methiant ymddiriedaeth na ellir ei adfer".
Roedd eisoes wedi cael ei wahardd o'r grŵp cyn hynny.
"Dyw hi ddim yn neis i feddwl fod rhywun yn tybio eich bod yn euog un ai o ddal rhywbeth yn eu herbyn neu eich bod ar eu hôl nhw," ychwanegodd y ffynhonnell.
Mae Mr McEvoy yn wynebu ymchwiliad gwahanol gan y blaid i gwynion ynglŷn â'i ymddygiad, sydd heb ei gwblhau eto.
Mae wedi honni fod y cwynion yn ei erbyn wedi cael eu cydlynu gan lobïwyr gwleidyddol - rhywbeth mae Plaid Cymru wedi gwadu.
Fe wnaeth yr AC ddefnyddio'r un broses diogelu data i gyhoeddi manylion am y cwynion yn ei erbyn, rhywbeth mae'r blaid bellach wedi ymddiheuro amdano.
Mae'n debyg nad yw gwybodaeth allai effeithio ar gwynion sy'n parhau yn cael ei ryddhau dan y cais i ACau Plaid.
'Annerbyniol'
Dywedodd Mr McEvoy: "Mae gen i nawr un o brif gyfreithwyr Cymru yn delio gyda fy achos.
"Fe fydd e'n atgoffa grŵp Plaid o bwysigrwydd cyfiawnder naturiol, dilyn prosesau, y ddyletswydd o ofal, a hawliau pobl i ddiogelu data, tegwch, a chael y cyfle i amddiffyn eu hunain.
"Yn hytrach nag anfon fy ngwybodaeth breifat i'r cyfryngau a lobïwyr, dwi'n gobeithio y bydd Plaid nawr yn canfod amser i ddelio â'r cwynion gafodd eu gwneud yn fy erbyn bron i flwyddyn yn ôl.
"Dyw'r fath oedi ddim yn dderbyniol."
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru, Aled ap Dafydd:
Mae'n anarferol iawn i aelod o blaid wleidyddol anfon cais o'r fath i gyd-aelodau.
Mae'n adlewyrchiad o sut mae'r berthynas wedi dirywio rhwng Neil McEvoy ac ACau Plaid, sydd bellach ddim eisiau gweithio ag o.
Mae o wedi honni, drwy ei gyfreithwyr, fod y blaid wedi methu â delio â'r cwynion amdano mewn modd priodol.
Mae rhai yn y blaid yn dweud fod gofyn am ohebiaeth yn y ffordd yma yn cyfiawnhau penderfyniad grŵp y Cynulliad i'w ddiarddel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018