Â鶹ԼÅÄ

Rhybudd Carwyn Jones dros gytundebau masnach Brexit

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dymuno mynediad agored i farchnad sengl yr UE

All cytundebau masnach newydd â gwledydd fel yr Unol Daleithiau ddim cymryd lle'r berthynas bresennol rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod yn "derbyn yn llwyr" bod cyfleoedd masnachu y tu allan i'r UE a'i bod o blaid masnach ryngwladol.

Ond mewn papur newydd ar ddyfodol ei pholisi masnach, mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod mynediad llawn a di-rwystr i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd - a bod yn rhan o'r undeb dollau - yn parhau'n flaenoriaeth.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i gael cytundeb da gyda'r UE ond ychwanegodd y byddai'r DU yn gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau.

'Pam gosod rhwystrau?'

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf fe wnaeth Cymru allforio gwerth £14.6bn o nwyddau yn 2016, gyda 61% o'r rheiny'n mynd i'r UE.

Yn yr un flwyddyn fe aeth 41% o holl allforion Prydain i'r UE.

Ar ymweliad â ffatri cwmni rhyngwladol yng Nghwmbrân, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Beth sy'n hynod bwysig i ni yw bod gennym fynediad llawn a di-rwystr i'n marchnad mwyaf pwysig ni.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau'r berthynas iawn gydag Ewrop ac wrth gwrs gallwn ni edrych ar gyfleoedd eraill mewn rhannau eraill o'r byd ond does dim byd yn mynd i gymryd lle Ewrop fel marchnad bwysig.

"Ar hyn o bryd mae gennym fynediad i'r farchnad honno sy'n golygu nad oes yn rhaid i ni dalu unrhyw dollau, does dim rhwystrau.

"Pam fydden ni eisiau gosod rhwystrau ble nad oes rhai'n bodoli?"

Cafodd ail adroddiad yn edrych ar effeithiau posib Brexit ar gwmnïau mawr yng Nghymru ei gyhoeddi gan Ysgol Fusnes Caerdydd ddydd Gwener.

Dywedodd un o'r awduron, yr Athro Max Munday, bod eu gwaith ymchwil wedi dod i'r casgliad nad oes un ateb penodol i fynd i'r afael â'r holl wahanol risgiau sy'n wynebu cwmnïau o ganlyniad i Brexit.

"I rai cwmnïau mae tollau'n bwysig ond i gwmnïau eraill rhwystrau di-doll sydd fwy pwysig," meddai.

'Partneriaeth uchelgeisiol'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd: "Rydym yn parchu pedwar rhyddid yr UE a dyna pam, wrth i ni adael yr UE, yr ydym ni'n gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb da gyda'r UE sy'n gweithio dros y Deyrnas Unedig yn gyfan a thros Gymru drwy bartneriaeth economaidd uchelgeisiol yn y dyfodol.

"Ac wrth i ni adael yr UE byddwn yn ffurfio cytundebau masnach newydd ac uchelgeisiol ar draws y byd."