Dim gwrthwynebiad gan borthladd i ffordd liniaru'r M4

Mae un o'r prif grwpiau oedd yn gwrthwynebu ffordd liniaru newydd i'r M4 o gwmpas Casnewydd bellach yn barod i gefnogi'r cynllun £1.4bn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd cytundeb rhyngddyn nhw ac Associated British Ports, sydd berchen dociau Casnewydd, yn cael ei arwyddo'r wythnos hon.

Dywedodd bargyfreithiwr y llywodraeth, Morag Ellis wrth ymchwiliad cyhoeddus yn y ddinas ddydd Mercher ei fod yn "gam mawr ymlaen".

Daw'r cytundeb wedi i'r llywodraeth addo gwario £135m ar welliannau i'r dociau.

'Pont isel'

Byddai'r gwelliannau yn cynyddu cost y gwaith i £1.4bn, a golygu nad oes disgwyl i ffordd liniaru'r M4 agor nes 2024.

Y bwriad yw adeiladu traffordd 15 milltir (24km) a phont chwe lôn dros Afon Wysg er mwyn lleihau tagfeydd traffig o gwmpas twneli Bryn-glas.

Mae gan ABP statws arbennig sydd yn golygu y byddai eu gwrthwynebiad nhw i'r cynllun yn cario mwy o bwyslais yn yr ymchwiliad cyhoeddus.

Roedd rheolwyr dociau Casnewydd wedi rhybuddio y byddai'r bont dros yr afon yn torri ar draws eu safle nhw, ac na fyddai'n ddigon uchel i adael i'r llongau mwyaf basio oddi tani.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Lewis Clarke

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n codi uchder y bont arfaethedig, yn ogystal â datblygu doc y de er mwyn lleddfu pryderon ynglŷn â gallu'r cychod mwyaf i gyrraedd y porthladd.

Mae ABP wedi derbyn cynlluniau'r llywodraeth a dywedodd eu bargyfreithiwr Andrew Tait wrth yr ymchwiliad fod disgwyl i'r cytundeb gael ei arwyddo'n ffurfiol ddydd Gwener.

"Fel prif borthladd cargo cyffredinol Cymru, mae porthladd Casnewydd eisoes yn cyfrannu £173m y flwyddyn i economi Cymru," meddai'r cwmni mewn datganiad.

"Bydd y cytundeb felly'n diogelu swyddi a gwarchod ased o bwysigrwydd economaidd cenedlaethol."

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai cydweithio ag ABP ar yr isadeiledd yn arwain at fudd "i Gasnewydd ac ar draws Cymru".

Mae disgwyl i'r rheiny sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau newydd o gwmpas y dociau gael eu clywed yn yr ymchwiliad ar 27 Chwefror.