Y Cymry'n curo'r cewri

Dafydd yn erbyn Goliath. Dyna ydy maint yr her sy'n wynebu pêl-droedwyr Casnewydd o'r Ail Adran y penwythnos yma wrth iddyn nhw herio Tottenham Hotspur, un o geffylau blaen yr Uwch Gynghrair ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Mae 'na dipyn o her yn wynebu Caerdydd o'r Bencampwriaeth hefyd wrth iddyn nhw groesawu Manchester City sydd ar frig yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

Fydd yna sioc neu ddwy? Wedi'r cwbl, mae gan dimau Cymru record anrhydeddus o guro'r cewri yng nghwpan FA Lloegr dros y blynyddoedd...

Aberdâr Athletic 1-0 Luton Town (1926)

Ffynhonnell y llun, RCAHMW

Disgrifiad o'r llun, Ynys Park, cartref Clwb Pêl-droed Aberdâr Athletic pan oedden nhw yn chwarae yng nghynghrair Lloegr

Roedd Aberdâr yn aelodau o Gynghrair Lloegr rhwng 1921 a 1927. Yn 1926 fe gyrhaeddodd Aberdâr drydedd rownd Cwpan yr FA, drwy guro Bristol Rovers 4-1 yn y rownd gyntaf a Luton Town 1-0 yn yr ail rownd.

Colli wnaeth Aberdâr yn y drydedd rownd yn erbyn Newcastle United, ac fe adawodd Aberdâr Cynghrair Lloegr y flwyddyn ganlynol.

Abertawe 2-1 Lerpwl (1964)

Ffynhonnell y llun, D. Coates

Disgrifiad o'r llun, Carfan Abertawe yn gadael am Lerpwl, 27 Chwefror, 1964

Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ddwywaith. Yn 1926 fe gurodd Abertawe Arsenal 2-1 yn y chwarteri cyn mynd 'mlaen i golli 3-0 yn erbyn Bolton.

Ond yn 1964 fe enillodd Abertawe 0 2-1 yn erbyn Lerpwl yn Anfield i gyrraedd y rownd gynderfynol. Roedd tîm Lerpwl yn cynnwys yr ymosodwyr enwog Roger Hunt ac Ian St John, ac fe enillon nhw bencampwriaeth yr Adran Gynaf y tymor hwnnw. Collodd Abertawe o 2-1 yn erbyn Preston North End yn Villa Park yn y rownd gynderfynol.

Caerdydd 2-1 Leeds United (2002)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Scott Young yn sgorio gyda tair munud o'r gêm ar ôl i roi buddugoliaeth i'r Adair Gleision

Mae Caerdydd wedi bod yn y rownd derfynol dair gwaith gan godi'r cwpan yn erbyn Arsenal yn 1927. Colli wnaeth yr Adar Gleision yn Wembley yn 1925 yn erbyn Sheffield United a 2008 yn erbyn Portsmouth.

Ond rhwng y ddau gyfnod llewyrchus rheiny roedd yn rhaid i Gaerdydd frwydro yn galed i wneud marc yn y gystadleuaeth. Ymhlith y canlyniadau cofiadwy yn y cyfnod hwn oedd y fuddugoliaeth yn erbyn Leeds United ym Mharc Ninian yn Ionawr 2002. Ar y pryd roedd Leeds yn chwarae yng Nghwpan UEFA, gyda gôl-geidwad Lloegr, Nigel Martyn a'r ymosodwyr Robbie Keane a Mark Viduka yn eu plith.

Caernarfon 2-1 York City (1987)

Disgrifiad o'r llun, Yr Oval yn llawn ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Barsnley, Ionawr 10, 1987

Roedd Caernarfon yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr pan wnaethon nhw gyrraedd trydedd rownd Cwpan Fa Lloegr yn 1987. John King oedd y rheolwr ar y pryd, gŵr ddaeth a llwyddiant mawr i Tranmere yn ddiweddarach.

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Cofis yn erbyn Stockport County (o'r bedwaredd adran) yn y rownd gyntaf cyn iddyn guro York City (o'r drydedd adran) yn yr ail rownd. Barnsley (o'r ail adran) oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd.

Er gwaetha'r gêm gyfartal ar yr Oval fe gollodd y Caneris y gêm ail-chwarae yn Oakwell o gôl i ddim.

Casnewydd 2-1 Leeds United (2017)

Ffynhonnell y llun, Ashley Crowden - CameraSport

Disgrifiad o'r llun, Shawn McCoulsky yn dathlu wedi iddo sgorio ail gôl Casnewydd yn erbyn Leeds yn y fuddugoliaeth yn Rodney Parade

Cyrraedd y bumed rownd yn 1949 yw'r pellaf mae Casnewydd wedi mynd yng Nghwpan FA Lloegr hyd yma. Ond roedd y fuddugoliaeth i'r tîm o'r Ail Adran yn erbyn Leeds o'r Bencampwriaeth yn y drydedd rownd eleni ymhlith y mwyaf cofiadwy.

Y wobr wedi'r fuddugoliaeth o ddwy gôl i un ydy wynebu Tottenham Hotpsur a'r dasg o drio cadw ymosodwr Lloegr, Harry Kane yn dawel.

Merthyr Tudful 3-1 Bristol Rovers (1947)

Disgrifiad o'r llun, Parc Penydarren, cartref y Merthyron

Fe gyrhaeddodd Merthyr ail rownd Cwpan yr FA ar bump achlysur rhwng 1947 ac 1991.

Daeth eu buddugoliaeth fwyaf nodedig yn 1947 pan wanethon nhw ennill o 3-1 gartref yn erbyn Bristol Rovers.

Y Rhyl 3-1 Notts County (1957)

Ffynhonnell y llun, Frank Pocklington

Disgrifiad o'r llun, Anaf i un o'r chwaraewyr yn y gêm rhwng Y Rhyl a Bristol City, 26 Ionawr, 1957

Yn 1957 fe enillodd Y Rhyl 3-1 yn erbyn Notts County oddi cartref ym Meadow Lane yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA. Roedden nhw wedi ennill yn erbyn Scarborough a Bishop Auckland yn y ddwy rownd gyntaf, ond roedd curo Notts County o ail adran Lloegr yn dipyn o gamp ar y pryd. Collodd Y Rhyl oddi cartref yn erbyn Bristol City yn y bedwaredd rownd.

Wrecsam 2-1 Arsenal (1992)

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Steve Watkin a Mickey Thomas, arwyr Wrecsam yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Arsenal

Mae Wrecsam wedi cyrraedd rownd wyth olaf y gwpan dair gwaith, yn 1974, 1978 ac yn 1997. Ond mae'n siŵr mai'r fuddugoliaeth fwyaf cofiadwy oedd honno yn erbyn Arsenal yn y drydedd rownd yn 1992.

Arsenal oedd pencampwyr Lloegr ar y pryd ac roedd Wrecsam yng ngwaelodion y bedwaredd adran. Gydag wyth munud i fynd roedd Arsenal ar y blaen, ond fe sgoriodd Mickey Thomas gyda tharan o gic rydd, cyn i Steve Watkin sgorio'r gôl sy'n achosi hunllefau i gefnogwyr y Gunners hyd heddiw.