Brexit: Sylwadau Carwyn Jones yn 'anghyfrifol'

Mae'n "anghyfrifol" i Carwyn Jones awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru wrthod cefnogi Mesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl cyn-weinidog Brexit.

Dywedodd y prif weinidog fod y mesur yn "ymosodiad ar ddatganoli" oherwydd y byddai pwerau'n dychwelyd o Frwsel i Lundain i ddechrau, yn hytrach nac i Fae Caerdydd.

Mae gweinidogion y DU yn mynnu y byddai pwerau dros faterion datganoledig yn mynd i Gymru yn y pen draw.

Dywedodd AS Gorllewin Clwyd, David Jones, y dylai'r prif weinidog wedithio'n "bositif" gyda Llywodraeth y DU.

'Dyletswydd'

Daeth sylwadau David Jones wrth i DÅ·'r Arglwyddi ddweud y byddan nhw'n ystyried y mater wrth ddechrau graffu ar y mesur ddiwedd y mis.

Roedd Llywodraeth y DU wedi bwriadu cyflwyno diwygiadau i'r mesur yn NhÅ·'r Cyffredin, ond chawson nhw ddim amser.

Dywedodd gweinidogion y byddai'r diwygiadau'n cael eu cyflwyno yn NhÅ·'r Arglwyddi.

Mae Carwyn Jones wedi mynnu na fyddai'n gallu argymell bod ACau'n cefnogi'r cynllun oni bai fod diwygiadau'n cael eu cyflwyno.

Disgrifiad o'r llun, Mae Dafydd Wigley yn dweud y dylai pwerau sydd yn dychwelyd o Frwsel gael eu trosglwyddo'n syth i'r Cynulliad

Ychwanegodd y gallai'r Cynulliad gynnig deddfwriaeth ei hun i amddiffyn pwerau.

"Mae angen i ni fodloni'r Cynulliad y bydd pwerau'n cael eu cydbwyso," meddai David Jones ar raglen Sunday Politics Wales.

"Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n anghyfrifol bod Carwyn Jones yn dechrau siarad yn nhermau gwrthod caniatâd deddfwriaethol.

"Dwi'n meddwl bod rhaid iddo adnabod bod y DU, a Chymru, wedi pleidleisio i adael yr UE a bod ganddo ddyletswydd i weithio gyda Llywodraeth y DU mewn ffordd bositif i sicrhau ein bod yn datrys hyn."

'Syth i'r Cynulliad'

Dywedodd llefarydd Llafur ar Brexit, y Farwnes Hayter nad yw'r llywodraeth wedi rhoi "unrhyw reswm o gwbl pam na ddylen nhw barchu'r setliad datganoli".

Ychwanegodd: "Hoffwn i weld ein llywodraeth yn y DU yn dod ynghŷd â llywodraethau etholedig yr Alban a Chymru a dod i gytundeb.

"Mae'n anodd dychmygu pam mae wedi cymryd mor hir a pham nad ydyn nhw wedi cael y trafodaethau allai fod wedi sicrhau datrysiad positif i hyn."

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru bod angen "sicrhau bod pwerau ar faterion datganoledig yn mynd yn syth i'r Cynulliad".

"Yn sicr mae angen dull lle mae trafodaeth a chytundeb rhwng pedair llywodraeth y DU i sicrhau bod y ddysgl yn wastad yn y farchnad sengl fydd ym Mhrydain," meddai.

Bydd Sunday Politics Wales ar Â鶹ԼÅÄ1 am 11:00 ar 21 Ionawr.