Mesur tynnu'n ôl o'r UE yn 'ymosodiad ar ddatganoli'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn cymryd camau i warchod pwerau Cymru wedi Brexit os nad yw gweinidogion y DU yn newid eu mesur i dynnu'n ôl o'r UE.

Dywedodd bod y ffordd y mae Theresa May yn bwriadu adennill pwerau o Frwsel yn "ymosodiad sylfaenol" ar ddatganoli.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod cydsynio â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd.

Dywedodd y bydd mesur i warchod buddiannau Cymru yn cael ei ddatgelu cyn diwedd Ionawr oni bai bod newidiadau.

Daeth rhybudd Mr Jones wedi datganiad ysgrifenedig ddydd Mawrth wrth i'r bil ddychelwyd i DÅ·'r Cyffredin.

Mae llywodraethau Cymru a'r Alban yn honni bod Llywodraeth y DU yn ceisio cymryd pwerau oddi arnyn nhw trwy gynnig y dylai'r hawl i reoli materion datganoledig fel amaeth symud o Frwsel i San Steffan.

"Mae'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli," dywedodd Mr Jones.

"Byddai'n golygu bod y cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn syrthio o'r neilltu wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn cael eu disodli â chyfres newydd o gyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol a fyddai'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

"Rydym wedi dweud yn gyson nad oes unrhyw obaith y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell cydsynio â'r Bil hwn fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd."

'Ffit i bwrpas'

Ym mis Tachwedd, dywedodd Mr Jones bod trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd Gwladol y DU ar y pryd, Damian Green, wedi bod yn 'galonogol'.

Dywedodd Mr Jones y byddai'n well ganddo barhau i drafod gyda llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y mesur yn "ffit i bwrpas", ond fe ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi paratoi bil ei hun i warchod buddiannau Cymru ar ôl Brexit.

"Os na fydd ein trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at y gwelliannau angenrheidiol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rwy'n bwriadu cyflwyno ein Bil Parhad i'r Llywydd cyn diwedd y mis hwn, er mwyn iddi wneud penderfyniad yn ei gylch," dywedodd.

Ond yn ôl yr AC a fydd yn cyflwyno fersiwn Plaid Cymru o fil parhad i'r Senedd ddydd Mercher "does dim arwydd bod y Ceidwadwyr yn fwy parod i gyfaddawdu".

Dywedodd Steffan Lewis: "Ni allai Llywodraeth Cymru aros yn y gobaith y bydd y Ceidwadwyr yn gweld rheswm - nawr yw'r amser i danio'r Bil Parhad."