Â鶹ԼÅÄ

Gweinidog yn amddiffyn parhau â chytundeb gyda Carillion

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr CarillionFfynhonnell y llun, Reuters

Fe wnaeth Llywodaeth Cymru fwrw ymlaen gyda chytundeb gyda Carillion ar ôl rhybudd am sefydlogrwydd y cwmni y llynedd, mae ACau wedi clywed.

Roedd y cwmni adeiladu, a aeth i'r wal yr wythnos yma, â rhan mewn dylunio dwy gyffordd ar yr A55.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford cafodd y cytundeb ei arwyddo cyn rhybudd elw ym mis Gorffennaf, ac yn sgil hynny fe gafodd y broses ei hatal am gyfnod wrth i swyddogion ymchwilio i'r sefyllfa.

Mae cwestiynau hefyd wedi codi ynghylch effaith cwymp Carillion ar y broses ymgeisio am gytundeb rheilffordd mawr.

Roedd Carillion yn rhan o gais sy'n cael ei arwain gan gwmni Abellio am yr hawl i redeg gwasanaeth trenau Cymru a'r Gororau ac i godi Metro De Cymru.

Mewn ymateb i gwestiwn brys yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford mai "bach iawn yw'r effaith yng Nghymru" o ganlyniad i dranc y cwmni.

Sicrwydd ffurfiol

Gan gyfeirio at brosiect cyffyrdd yr A55, dywedodd: "Roedd yr holl fusnes o ddyfarnu cytundeb wedi'i gwblhau cyn y rhybudd elw ar 10 Gorffennaf, ond doedd llythyrau'r cytundeb heb eu danfon i'r cwmni."

Cafodd y llythyrau hynny eu dal yn ôl, meddai, ac "fe fu rhagor o ymholiadau... i benderfynu a oedd angen nodi rhagor o risgiau".

"Roedd yna gyfnod pellach o ymchwilio pan ofynnwyd am sicrwydd ffurfiol gan y cwmni.

"Ym marn swyddogion oedd yn gyfrifol am yr asesiad yna fe gafwyd y sicrwydd angenrheidiol.

"Petai'r cytundeb heb fynd yn ei flaen, roedd yna risg wahanol y gallai'r cwmni ei hun fod wedi gofyn am adolygu'r penderfyniad, oherwydd roedd y broses arferol wedi ei dilyn wrth ddyfarnu'r cytundeb iddyn nhw."

Byddai her o'r fath, meddai, wedi gallu achosi oedi y byddai trigolion lleol wedi gobeithio ei osgoi.

'Esgeulustod'

Mae ASau Llafur wedi beirniadu llywodraeth y DU am barhau i roi cytundebau i Carillion, er gwaetha rhybuddion y llynedd.

Gofynnodd AC Plaid Cymru Adam Price os yw Llywodraeth Cymru wedi trafod cynlluniau wrth gefn gydag Abellio, un o dri chonsortiwm sy'n cystadlu am y cytundeb rheilffordd, wedi dau rybudd elw pellach ynghylch Carillion yn 2017.

Nes ymlaen, fe ddywedodd Mr Price ar Twitter: "Mae'n ymddangos - ar sail atebion y Llywodraeth Lafur heddiw - yn fwyfwy tebygol nawr mai dim ond dau ymgeisydd fydd ar ôl ar gyfer cytundeb Cymru A'r Gororau.

"Esgeulustod gwirioneddol na fu cynlluniau wrth gefn gydag Abellio petai Carillion yn cwympo fel rhan o drafodaethau'r gystadleuaeth."