7 cam i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae'n darged uchelgeisiol ond sut mae sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Mae'r ymgynghorydd iaith annibynnol Elin Maher o Gasnewydd wedi llunio canllawiau ymarferol i fynd i'r afael â'r nod osododd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Elin wrth Cymru Fyw: "Mi wnes i ddechrau rhoi syniadau ymarferol ar fy nhudalen Facebook ar ôl i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi arolwg o ddefnydd y Gymraeg yn siambr y Cynulliad.

"Mae'n iawn i ni fod yn siomedig neu'n grac gyda hyn, ond meddyliais, wel iawn, mae hyn yn digwydd, beth fedrwn ni wneud i newid y sefyllfa? Arweiniodd un syniad at y llall.

"Mae pobl wedi bod yn ymateb i'r cynigion, ac ambell un yn gwneud cynigion ychwanegol eu hunain a dyna'r union fath o sgwrs sydd angen i ni ei chael yng Nghymru. Defnyddio ein profiadau a'n gwybodaeth fel Cymry, i ddarganfod datrysiadau i broblemau yn hytrach na gobeithio bydd rhywun arall yn gwneud hynny ar ein rhan ni.

"Mae'n rhaid i ni gyd fod yn barod i wyntyllu syniadau ac annog gweithredu pan ni'n gweld fod rhywbeth ddim yn iawn."

Dyma i chi 7 o argymhellion Elin Maher:

#1 Cyfweliadau yn Gymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Wales gydag isdeitlau Saesneg.

#2 Targedau i bob Aelod Cynulliad sy'n siarad Cymraeg ddefnyddio'r iaith yn y siambr.

Disgrifiad o'r llun, Mae angen gwneud defnydd ehangach o'r Gymraeg yn y Senedd meddai Elin Maher

#3 Sefydlu amser Coffi Cymraeg yn y gwaith i roi cyfle i ddysgwyr ymarfer.

#4 Targedau i bob cynghorydd sy'n siarad Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg yn eu siambrau.

#5 System gyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob adeilad cyhoeddus.

#6 Rhaglen genedlaethol gynhwysfawr sy'n cyflwyno gyrfaoedd i ddisgyblion ysgol o'r cynradd i fyny. Pwysleisio sgil siarad Cymraeg yn rhan o'r cynllun.

Disgrifiad o'r llun, Faint o'n plant ni fydd yn siarad Cymraeg erbyn 2050?

#7 Penodi swyddog hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob ysgol ar draws Cymru i helpu disgyblion ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.

Hefyd o ddiddordeb...

Oes gennych chi awgrymiadau? Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu

Gallwch gysylltu hefyd trwy lenwi'r blwch isod: