Â鶹ԼÅÄ

Galw am fwy o amrywiaeth ymysg barnwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Nuhu Gobir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nuhu Gobir wedi gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd ers 16 mlynedd

Mae angen mwy o farnwyr o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru i atal anffafriaeth yn y system gyfreithiol, yn ôl bargyfreithiwr.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd AS Tottenham, David Lammy, adroddiad am anffafriaeth yn system gyfreithiol Prydain.

Roedd yr adroddiad wedi dod i'r canlyniad bod chwarter carcharorion y DU yn ddu, Asiaidd neu o gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill (BAME), er eu bod yn cynrychioli dim ond 14% o'r boblogaeth.

Yng Nghymru mae 11% o garcharorion o leiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 4% o'r boblogaeth.

'Problemau amlwg'

Dywedodd Nuhu Gobir, sydd wedi gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd ers 16 mlynedd, y byddai mwy o farnwyr o leiafrifoedd ethnig yn helpu i galonogi diffynyddion y byddan nhw'n cael gwrandawiad teg.

"Mae'r adroddiad yn dangos bod unigolion BAME yn parhau i wynebu rhagfarn a bod y system yn trin lleiafrifoedd ethnig yn fwy llym ar bob lefel - o'u harestio hyd at y ddedfryd," meddai.

"Er nad ydw i na fy nghleientiaid BAME wedi profi anffafriaeth gweladwy, mae'r problemau yn amlwg i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiad David Lammy yn gwneud 35 argymhelliad i ddiwygio'r system gyfreithiol

Dywedodd Mr Gobir mai dim ond dau fargyfreithiwr arall o leiafrifoedd ethnig y mae'n ymwybodol ohonynt yng Nghymru.

"O'r hyn rydw i'n ei wybod, does dim un barnwr trosedd du yng Nghymru gyfan," ychwanegodd.

"Mewn gwirionedd, ers i mi ddechrau gweithio yn 2001, dim ond un barnwr BAME rydw i wedi dod ar ei draws, ac fe symudodd ymlaen ar ddechrau fy ngyrfa.

"Ers hynny mae'n rhaid fy mod wedi gwneud miloedd o achosion trosedd - pob un ohonyn nhw o flaen barnwr gwyn.

"I mi fel bargyfreithiwr du, mae'n sefyllfa anghyfforddus a rhwystredig, ac rwy'n gwybod sut gall hyn ymddangos i ddiffynnydd BAME."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nuhu Gobir nad yw'n ymwybodol o'r un barnwr trosedd du yng Nghymru gyfan

Ychwanegodd Mr Gobir bod rhai diffynyddion wedi mynegi pryder iddo yn y gorffennol na fyddan nhw'n cael dedfryd deg gan farnwr gwyn.

Dywedodd bod data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod troseddwyr o leiafrifoedd ethnig yn llys y goron yn fwy tebygol o gael dedfryd o garchar na throseddwyr gwyn, am droseddau tebyg.

Galwodd hefyd am osod targedau ar gyfer apwyntio mwy o farnwyr o leiafrifoedd ethnig.

"Bydd cael targedau o leiaf yn rhoi tawelu meddyliau diffynyddion BAME, a lleihau eu hamheuon am degwch y broses gyfreithiol," meddai.

"Wedi'r cyfan, mae'n system sydd angen gweithio i bawb - beth bynnag y drosedd."