Cymraes yn portreadu un o chwiorydd Little Women

Disgrifiad o'r llun, Annes Elwy (Beth ar y chwith) gyda'i chyd actorion, Maya Hawke (Jo), Kathryn Newton (Amy) a Willa Fitzgerald (Meg)

Mae actores o Benarth wedi siarad am y "fraint" o gael ei dewis i bortreadu un o'r chwiorydd yn nramateiddiad newydd Â鶹ԼÅÄ One o'r nofel Little Women.

Mae'r cynhyrchiad yn un o uchafbwyntiau Â鶹ԼÅÄ One dros yr ŵyl, gyda'r tair pennod yn cael eu darlledu dair noson yn olynol, gan ddechrau ar Å´yl San Steffan.

Annes Elwy sy'n portreadu cymeriad Beth, "y chwaer dawela, mwya' swil ohonyn nhw," medd yr actores wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

'Anhygoel'

 hithau eisoes wedi magu profiad ym myd actio, a chael ei chanmol am ei pherfformiadau yn y ddrama lwyfan Yen a'r ffilm Yr Ymadawiad, mae Annes yn cyfaddef mai dyma'r cynhyrchiad mwyaf iddi fod yn rhan ohono hyd yma.

"Hwn yn bendant ydy'r peth mwyaf. Roedd o'n anhygoel, gawson ni amser mor neis."

Disgrifiad o'r llun, Y chwiorydd gyda'u mham, Marmee sy'n cael ei phortreadu gan Emily Watson

Mae'r nofel o waith Louisa May Alcott yn dilyn hynt a helynt pedair chwaer a'u mam yn ystod caledu rhyfel cartref America yn y 19fed ganrif.

"Maen nhw [y chwiorydd] i gyd ishe gyrfaoedd a gadael y teulu a mynd i ddysgu a phethe fel 'ny," medd Annes, "a dy' Beth ddim - mae hi jest eisiau bod adref efo'i chwiorydd a'i theulu ac edrych ar ôl pobl.

"Mae hi'n emosiynol iawn ac yn teimlo poen pawb arall. Felly weithiau mae hi'n ffeindio'r byd yn lle eitha' dychrynllyd, a dwi'n meddwl ei bod hi'n defnyddio cerddoriaeth i ddelio efo pethau."

Disgrifiad o'r llun, Beth yw'r "chwaer dawela, mwya swil ohonyn nhw" medd Annes

Er bod Little Women yn boblogaidd i genedlaethau o blant ac oedolion, doedd Annes ddim gyfarwydd â'r nofel o flaen llaw: "Mi roedd yn hoff nofel i bob un o'r chwiorydd eraill ond rywsut wnes i ddim o'i ddarllen yn tyfu fyny.

"Ond mewn ffordd, dwi'n falch, achos mae hynna'n golygu fy mod i wedi cael cyfle i ddod at y sgript a'i drin o fel cymeriad newydd.

"Ges i gysylltiad mor agos efo fo'n syth bin, felly dwi'n gobeithio y bydd yn addas i bobl sy'n dwli ar y nofel a phobl sydd ddim wedi ei ddarllen e, fel fi."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Annes Elwy yn y ffilm Yr Ymadawiad (2015) gyda Dyfan Dwyfor

Ac mae Annes yn dweud ei fod yn anrhydedd arbennig iddi gael ei dewis er nad yw hi'n Americanes: "Roedd yn fraint cael gwneud swydd mewn acen gwahanol.

"Dwi'n meddwl bod lot o actorion eisiau gwneud swyddi fel yna ond da' chi wastad yn cael eich castio fel chi eich hun.

'Y trywydd iawn'

"Da chi'n treulio cymaint o amser yn y coleg yn cael eich hyfforddi i wneud acenion felly roedd o'n neis cael y cyfle i neud hynny.

"Roedd gynnon ni rywun oedd yn gwrando ar yr acen i wneud yn siŵr fy mod i'n aros ar y trywydd iawn ond roedd y chwiorydd i gyd o' nghwmpas i'n Americanwyr, felly roedd o'n neis anghofio amdano fo a gobeithio ei fod yn iawn."

Disgrifiad o'r llun, Mae Michael Gambon ac Angela Lansbury ymhlith y cast

Ymhlith y cast mae actorion profiadol fel Emily Thompson, Angela Lansbury a Michael Gambon, a oedd, medd Annes, yn hael eu cyngor.

"Roedd y criw canolig ohonon ni'r chwiorydd a Jonah Hauer-King, sy'n chwarae Laurie, y bachgen drws nesaf - roedden ni yna efo'n gilydd bob dydd drwy'r dydd.

"Wedyn roedd yna grŵp allanol o bobl sydd dipyn bach yn hŷn ac yn llawer mwy profiadol na ni.

"Roedden nhw'i gyd mor barod i rannu popeth roedden nhw'n gwybod ac i dreulio amser efo ni.

"Roedden nhw'n hyfryd ac yn anhygoel. Maen nhw'n actorion gwych."

Little Women, Â鶹ԼÅÄ One Wales nos Fawrth 26, nos Fercher 27 a nos Iau 28 o Ragfyr, neu bydd modd gwylio'n ôl ar yr iPlayer.