Â鶹ԼÅÄ

Gostyngiad o 50% yn nifer y gwylanod goesddu

  • Cyhoeddwyd
Gwylan goesdduFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylanod goesddu yn nythu yng Nghymru

Mae math o aderyn môr, sydd ar restr rhywogaethau sydd mewn perygl, wedi gweld ei niferoedd yng Nghymru yn gostwng 50% mewn 25 mlynedd medd arbenigwr.

Cafodd y wylan goesddu a phâl yr Iwerydd eu gosod ar restr ryngwladol o rywogaethau sydd mewn perygl ddydd Mawrth.

Mae'r ddau yn nythu yng Nghymru ac mae nifer o'r gwylanod goesddu i'w gweld ar ynysoedd de orllewin Cymru fel Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm ger Sir Benfro.

Yn ôl Stephen Bledwell, rheolwr bioamrywiaeth gyda RSPB Cymru mae'n "her" monitro niferoedd adar y môr.

Mwy o balod

Ond maen nhw wedi gweld 50% o ostyngiad yn nifer y wylan goesddu dros y chwarter canrif ddiwethaf.

"Fe wnaethon nhw ddal eu tir yng Nghymru am gyfnod hirach. Felly roedd hi'n ymddangos bod Cymru yn mynd yn groes i'r graen ond mae'r sefyllfa yn dechrau gwaethygu," meddai.

"Mae palod yn gwneud ychydig yn well yng Nghymru."

Mae Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm wedi dod yn rhyw fath o warchodfa i bâl yr Iwerydd.

Er bod yna ostyngiad wedi bod yn y niferoedd ar draws y byd, yn 2017 roedd 22,227 wedi eu canfod yn Ynys Sgomer.

6,692 oedd ar Ynys Sgogwm y llynedd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg cyflenwad o bysgod yn y môr yn golygu bod palod yn dioddef

Dywedodd Mr Bledwell wrth gyfeirio at Ynys Sgomer: "Dyma'r unig wladfa yn y rhan yma o'r byd lle mae'r niferoedd yn cynydd

Dywedodd gan nad oedd llygod ar yr ynys mae cywion bach yn fwy diogel.

"Mae'r mae eu rhieni yn bwydo yn Mor Iwerddon lle tan yn ddiweddar mae cyflenwad pysgod wedi bod yn ddigon i'w cynnal.

"Ond mae hynny'n newid nawr am fod pysgota ar raddfa fawr yn digwydd. Dyw'r gwylanod goesddu ddim yn gwneud cystal."

Dywedodd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd bydd yn rhaid i'r llywodraeth edrych o ddifri ar y sefyllfa a mynd i'r afael â physgota o'r fath er mwyn sicrhau dyfodol yr adar.

Angen ymdrech fawr

Dywedodd Kelvin Jones o Ymddiriedolaeth Brydeinig Adaryddiaeth yng Nghymru: "Yn anecdotaidd, rydyn ni'n gwybod bod y gwylanod goesddu wedi lleihau yng Nghymru am fod prinder llymrïaid (math o lysywen).

"Mae palod yn llwgu am nad ydyn nhw'n gallu cael gafael mewn llymrïaid."

Mae'n cyfeirio hefyd at broblem cynhesu'r môr a phlastig yn y môr.

Credai fod modd cynyddu'r niferoedd ond bod angen ymdrech fawr.

"Fe allwn ni osgoi gor bysgota, fe allwn ni osgoi rhoi plastig yn ein moroedd. Mae'n bosib i bawb chwarae eu rhan."