Drakeford: 'Rhai cyfleoedd' i Gymru yn sgil Brexit

Fe fydd "rhai cyfleoedd" i Cymru yn sgil Brexit, medd ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru.

Mewn cyfweliad a rhaglen Wales Live, sy'n cael ei darlledu am 22:30 ar Â鶹ԼÅÄ1 Cymru nos Fercher, mae Mark Drakeford yn dweud y bydd yn asesu sut y gallai Cymru elwa pan na fydd rheolau'r UE yn berthnasol bellach.

Roedd yn ymateb i sylwadau prif weithredwr cwmni wisgi Penderyn, Stephen Davies, ddwedodd y gallai Brexit greu cyfleoedd i'w fusnes: "Rwy'n credu y bydd yna gyfleoedd, ac mae'n debyg mai un amlwg i ni fydd edrych ar rywle fel India, lle mae llawer o wisgi'n cael ei yfed ar hyn o bryd ond mae yna drethi a rhwystrau i gael wisgi i mewn i'r wlad.

'Cyffrous'

"Mewn sefyllfa lle byddai yna gytundeb masnach rydd gydag India, byddai'r trethi hynny'n cael eu diddymu a byddai yna gyfle mawr, a byddai hynny'n eitha cyffrous."

Wrth ymateb, dywedodd Mr Drakeford: "Rhaid i ni edrych ar y cyfleoedd y bydd Brexit yn eu creu achos mae Brexit yn mynd i ddigwydd.

"Felly bydd rhai cyfleoedd pan fyddwn ni'n gallu gweithredu y tu allan i'r rheolau."

Ergyd i May

Daeth ei sylwadau ar noson pan roedd yna ergyd i gynlluniau Brexit y Prif Weinidog Theresa May.

Cafodd Llywodraeth Prydain ei threchu o drwch blewyn ar bleidlais yn NhÅ·'r Cyffredin.

Disgrifiad o'r llun, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais

Pleidleisiodd 11 aelod o'r blaid Geidwadol yn groes i'r Llywodraeth ar welliant fyddai'n rhoi gwarant cyfreithiol i Senedd San Steffan gael cynnal pleidlais ar y cytundeb terfynol.

Ymhlith yr 11 oedd y cyn-Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Antoinette Sandbach.