Cyfle i'r cyhoedd weld cynllun gwella'r A55

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae cylchfan Llanfairfechan yn un o ddim ond dwy rhwng Caergybi a Llundain

Bydd y cynlluniau i wella cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 yn cael eu harddangos i'r cyhoedd dros dridiau yr wythnos hon.

Cylchfannau, yn hytrach na chyffyrdd arferol ar ffyrdd deuol, sydd ar y ddwy gyffordd yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr yn sir Conwy.

Bwriad y cynllun yw newid y ddwy gyffordd i rai aml-lefel er mwyn gwneud y daith y fwy diogel ac yn gyflymach.

Mae'r cylchfannau C15 a C16 wedi cael eu 'gwella' sawl gwaith yn y gorffennol, ac mae'r gwaith yna wedi achosi oedi sylweddol ar brif ffordd y gogledd.

Nawr mae llywodraeth Cymru yn ystyried ystod o ddewisiadau i dynnu'r cylchfannau.

Bydd y contractwyr Carillion, gyda'i hymgynghorwyr Ramboll, Gwynedd Consultancy a Richards Moorehead and Laing yn cynnal y digwyddiadau.

'Lleihau amser teithio'

Yn Amgueddfa Penmaenmawr mae'r arddangosfa gyntaf ar 13 Rhagfyr, 14 Rhagfyr yn Sefydliad yr Eglwys, Llanfairfechan, a'r 15 Rhagfyr yn Neuadd Sant Gwynin, Dwygyfylchi.

Bydd yr arddangosfeydd yn agored rhwng 10:00 a 20:00 ar y tri diwrnod.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae'r A55 yn ffordd o bwys i'r Gogledd. Bydd y prosiect sylweddol hwn yn dod â llawer o fanteision yn ei sgil, gan gynnwys llif traffig gwell a lleihau amser teithio heb sôn am wella ein gallu i ddelio ag argyfyngau.

"Mae arddangosfeydd fel hyn yn gyfle da i bobl ddysgu am y cynigion sydd o dan ystyriaeth a dweud eu dweud.

"Mae'r cynllun hwn yn enghraifft wych o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn yr A55."