麻豆约拍

Blwyddyn y M么r fydd ymgyrch dwristiaeth Cymru yn 2018

  • Cyhoeddwyd
blwyddyn y mor 2018Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r drydedd flwyddyn thematig mewn cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru.

Blwyddyn y M么r fydd 2018, a hynny'n dilyn Blwyddyn Antur 2016 a Blwyddyn y Chwedlau 2017.

Nod y flwyddyn i ddod fydd ceisio rhoi cyfle i Gymru i sicrhau ei lle fel "y brif gyrchfan arfordirol" yn y DU.

Cafodd y syniad o flynyddoedd thematig ei ddatblygu er mwyn ceisio gwneud mwy o'r adnoddau naturiol sydd gan Gymru i'w cynnig i dwristiaid, ac unwaith eto bydd cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.

Bydd Croeso Cymru yn "parhau i gryfhau syniadau cadarnhaol am Gymru a herio syniadau hen ffasiwn amdani" gyda rhaglen er mwyn hyrwyddo cynnyrch, gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau arbennig.

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis-Thomas: "Wrth i ni lansio'r ymgyrch yma, mae hefyd yn newyddion gwych fod Cymru wedi cael ei henwi gan y Rough Guides yn y pumed lle gorau i ymweld yn ystod 2018 - tystiolaeth ein bod yn gwneud ein marc yn y farchnad gystadleuol yma.

"Mae Blwyddyn y M么r hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu'n llwybr arfordirol unigryw, 870 milltir o hyd, ein 230 o draethau a'n 50 o ynysoedd, a'r ffaith bod gennym fwy o draethau Baner Las y filltir nag unman arall ym Mhrydain.

"Ond bydd Blwyddyn y M么r yn ymwneud 芒 mwy na'n harfordir.

"Bydd y flwyddyn yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar lannau m么r Cymru gan gynnwys ein llynnoedd, afonydd a theithiau i'r m么r, nid y m么r unig, ac yn ddathliad o'n cymunedau arfordirol a'n diwylliant.

"Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd morol yn uchel ar yr agenda fel y mae diogelwch ar y m么r a sicrhau bod pawb yn mwynhau ein harfordir, ond mewn ffordd gyfrifol."

Ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod gan pobl o rannau eraill y DU weithiau "syniadau camarweiniol" yngl欧n 芒'r hyn oedd gan Gymru i'w gynnig, a bod yr ymgyrchoedd thematig yn ffordd o newid hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd y Gymraes Hannah Mills fedal aur yn Rio am hwylio

Llysgennad Blwyddyn y M么r 2018 fydd Hannah Mills, enillydd medal aur Olympaidd am hwylio, a dywedodd: "Wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd ac archwilio arfordiroedd a moroedd o amgylch Cymru o Ynys M么n i'r Mwmbwls, mae arfordir Cymru wedi cael effaith enfawr ar lunio fy ngyrfa.

"Mae gen i lu o atgofion a phrofiadau i'w trysori am hwylio yn y fath le godidog."

'Hwb i'r economi'

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC) gyda'r ymrwymiad i lunio ffordd gyd-gysylltiedig a chynaliadwy o gynllunio a rheoli'n harfordiroedd a'n moroedd a fydd yn ein helpu i wireddu'n gweledigaeth o f么r gl芒n, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol.

Mae'r blynyddoedd thematig hefyd wedi gwneud gwahaniaeth i'r economi, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Maen nhw'n dweud fod Blwyddyn Antur 2016 wedi dod 芒 拢370m ychwanegol i economi Cymru - cynnydd o 18% o'i chymharu 芒 2015.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Llywodraeth Cymru fe wnaeth Blwyddyn Antur 2016 ddod 芒 拢370m yn ychwanegol i mewn i economi Cymru

Ar gyfer 2017 - Blwyddyn y Chwedlau - mae ffigyrau'r Llywodraeth yn awgrymu fod 42% o ymatebwyr yn dweud bod ganddynt fwy o ymwelwyr na'r llynedd.

Hefyd, cafwyd y nifer uchaf o ymweliadau 芒 safleoedd Cadw ac Amgueddfa Cymru dros yr haf.

Yn 2019, fe fydd yr ymgyrch yn seiliedig ar y thema 'Darganfod'.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n sylweddol mewn prosiectau a fydd yn hyrwyddo Blwyddyn y M么r yng Nghymru yn 2018.

Cafodd 拢2m o'r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth a'r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol ei rannu ymhlith 38 o brosiectau ledled Cymru.

Buddsoddi

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r cronfeydd hyn yn helpu'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i ddatblygu prosiectau arloesol a chynnal y blynyddoedd thematig.

"Gwneir buddsoddiad sylweddol mewn cyrchfannau arfordirol drwy ein cynllun Cyrchfannau Denu Twristiaeth, a ariennir gan yr UE.

"Bydd Prosiect y Glannau, Bae Colwyn, yn agor yn 2018 yn sgil buddsoddiad o 拢3.9m a hefyd a 拢6.6m o fuddsoddiad ar gyfer terfynfa newydd gyfer y rheilffordd Ucheldir Cymru yng Nghaernarfon ac estyniad i gyfleusterau diwylliannol yn Galeri fel rhan o'r rhaglen ehangach i adfywio glannau Caernarfon.

"Hefyd, mae gwaith wedi dechrau ar Ganolfan Morwrol Porthcawl, sy'n werth 拢5.5m."