Ydy'ch enw Cymraeg chi'n help neu'n rhwystr?

Ydych chi erioed wedi gorfod egluro wrth rhywun sut mae ynganu eich enw chi'n iawn?

Fe ofynnodd Cymru Fyw i dri person o wahanol feysydd os oedden nhw'n teimlo bod eu enwau Cymraeg nhw wedi bod yn help neu'n rhwystr yn eu gyrfaoedd...

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Rhun ap Iorwerth. Aelod Cynulliad a chyn-newyddiadurwr.

"Mae fy enw wastad wedi bod yn destun sgwrs! Dwi wastad yn deud wrth bobl ddi-Gymraeg bod fy enw'n ddigon hawdd i'w ddeud, ond yn cydnabod ei fod yn anodd iddyn nhw ei ddarllen!

"Tra'n darlledu i'r Â鶹ԼÅÄ, roedd fy nghydweithwyr yn Llundain yn gallu ynganu fy enw'n iawn, ond i mi roi sillafiad ffonetig iddyn nhw.

"Dwi'n cofio Dermot Murnaghan yn ei ynganu'n berffaith wrth fy nghyflwyno ar Â鶹ԼÅÄ Breakfast unwaith, ond i ddad-wneud hynny drwy ddweud 'Thank you Rhun ap' wrth gloi'r eitem!

"A fu'n broblem erioed? Rwy'n cofio meddwl tybed a fyddai'n broblem wrth i mi ddechrau ar fy ngyrfa newyddiadurol a darlledu yn Saesneg, ond na, ddigwyddodd hynny ddim mewn difri'.

"Fe ddaeth yn destun trafod wrth i mi droi at wleidyddiaeth. Ymddangosodd yn dyfynnu ffynhonnell o'r Blaid Lafur yn dweud: 'Most people in Wales won't even be able to pronounce his name, and it's difficult to imagine someone called Rhun ap Iorwerth going down well in Islwyn, or that the party will be able to make advances in the Valleys.'

"Roedd yna dipyn o backlash i hynny. Ai yr awgrym oedd bod pobl yn Islwyn neu ar draws gymoedd y de rywsut yn llai Cymreig na phobl gweddill Cymru? Twt lol!

"Fe wnaed i mi wenu gan y sylw yma ar Twitter wedi un ymddangosiad teledu:

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

"Dwi wedi gweld sawl sylw tebyg arall hefyd, chwarae teg. Rydw i'n falch iawn o fy enw!"

Disgrifiad o'r llun, Roedd Annes yn un o sêr cyfres ddrama Little Women ar Â鶹ԼÅÄ One dros yr ŵyl

Annes Elwy. Actores.

"Dwi ddim yn meddwl bod fy enw i'n mynd i fod yn rhwystr i fi.

"Yr unig beth falle yw bod pobl yn gweld fy enw i ar ddiwedd rhaglen a gweld yn amlwg 'mod i ddim yn dod o ardal y cymeriad, ond dyw hynny ddim yn ormod o broblem.

"O'n i yn y coleg drama gyda merch o'r enw Melangell ac un o'r enw Elliw. Roedd pobl yn gofyn iddyn nhw alw eu hunain yn Mel Angel ac Ellie - mae pobl yn gallu gwneud pethe hurt weithie!

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

"Rwy'n aml yn cael pobl yn dweud 'oh, they've spelt yours wrong, it's got an 's' at the end of it'.

"Ond rwy'n falch o fy enw - ac os yw rhywun yn cael llwyddiant tu hwnt i Gymru mae'n ffordd cŵl o ddangos enwau Cymraeg i'r byd!"

Owain Tudur Jones. Cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol.

"Y broblem oedd cael pobl i ddweud yr enw'n gywir yn fwy na dim - dwi dal yn Owen Tudor i ffans Abertawe!

"Ers pan o'n i'n ysgol oedd pawb yn galw fi'n Owain Tudur, neu Owain Tudur Jones felly o symud i'r 'byd pêl-droed' doedd pobl methu dallt pam bod fy enw canol i'n cael ei ddefnyddio.

"Ond os rwbath 'nath o 'neud fy enw i'n fwy cyfarwydd i bobl lle ella os fyswn i jysd yn Owain Jones fyswn i o dan y radar ychydig bach yn fwy.

"Roedd sgwennu fy enw i hyd yn oed yn broblem i'r clybiau o'n i'n chwarae iddyn nhw. Anaml o'n i'n cael 'Tudur Jones' ar gefn fy nghrys ond os o'n i mi oedd 'na hyphen arno fo - oedd hynny'n golygu bod y kit man yn gorfod g'neud un arall i fi.

"O'n i methu dallt bod nhw ddim yn gallu d'eud fy enw i'n gywir ond pan oedd chwaraewyr o dramor yn dod i fewn - oedd efo enwa' dipyn fwy cymhleth na Tudur Jones - doedd 'na ddim problem!

"Geith pobl alw fi'n be' bynnag maen nhw isio - OTJ, Jonesy, Tudes, Lofty - dwi wedi'i gael o i gyd. Ond mae o'n dal i ddigwydd yn y cyfrynga' - mae Kevin Ratcliffe yn teimlo fod OTJ yn cymryd gormod o amsar felly mae o wedi'i fyrhau o hyd yn oed yn fwy i OT!"

Ydych chi'n teimlo fod eich enw Cymraeg chi wedi bod yn help neu'n rhwystr yn ystod eich gyrfa? Rhannwch eich profiadau efo ni.