Â鶹ԼÅÄ

Cynnydd yn y bwlch rhwng perfformiad TGAU ardaloedd

  • Cyhoeddwyd
papur arholiadFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r gwahaniaeth yng nghanlyniadau TGAU yr ardaloedd wnaeth berfformio orau a waethaf yng Nghymru ar ei fwyaf ers pum mlynedd.

Fe wnaeth 67% o ddisgyblion Sir Fynwy gael pum gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg.

Ym Mlaenau Gwent oedd y canran isaf, gydag ond 41.1% yn cyrraedd y trothwy.

Ond mae ystadegwyr ac ysgrifennydd addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen bod yn ofalus cyn cymharu'r canlyniadau i ffigyrau'r llynedd.

Gwaethygu

Oherwydd newidiadau i arholiadau, bydd yn rhaid aros nes 2021 i allu cymharu'r canlyniadau dros amser yn iawn.

Yn 2016/17 fe wnaeth 54.6% o ddisgyblion ar draws Cymru gyrraedd y targed o gael pum gradd A*-C.

Dechreuodd y ffigyrau hynny gael eu casglu yn 2007/08, ac ers hynny mae Blaenau Gwent wedi dod yn is na phob awdurdod lleol arall dan y mesuriad.

Roedd Ceredigion, Powys, Bro Morgannwg a Chaerdydd ymysg y rheiny yn y pump uchaf eleni, tra bod Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam a Merthyr Tudful ar y gwaelodion.

Fe wnaeth yr adroddiad terfynol ar ganlyniadau arholiadau hefyd ddangos fod:

  • 28.6% o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau bwyd am ddim yn cyrraedd y trothwy, gyda'r bwlch yn tyfu ychydig o'i gymharu â disgyblion mwy cefnog;

  • 62.5% o ddisgyblion yn cael gradd A*-C mewn Mathemateg/Mathemateg Rhifedd;

  • 65% yn cael gradd A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf.

Dim ond yr arholiadau Saesneg Iaith, Mathemateg, a Mathemateg Rhifedd newydd gafodd eu cynnwys yn y ffigyrau diweddaraf.

Fe wnaeth y gyfradd oedd yn cael graddau A*-C yng Nghymru ostwng yr haf hwn i'w lefel isaf ers 2006, yn dilyn rhai o'r newidiadau mwyaf mewn degawdau i'r system arholiadau.

'Dim modd cymharu'

"Cenhadaeth ein cenedl yw bod pob plentyn, o ba gefndir bynnag y bo, yn cael y cyfle i lwyddo," meddai'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

"Mae ein Grant Datblygu Disgyblion, sy'n rhoi cymorth ychwanegol i blant o gefndiroedd o dan anfantais, yn rhan hanfodol o'n cynlluniau ac rydyn ni eisoes yn gweld y manteision."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams wedi dweud nad oes modd cymharu'r data yn uniongyrchol

Dywedodd ei fod yn gwneud gwahaniaeth o ran "torri'r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad a fu'n rhan ddiflino o'n system addysg".

Ychwanegodd na fyddai'n briodol na chywir i gymharu canlyniadau TGAU y llynedd ac eleni.

"Mae'n bwysig cael data lle gallwch gymharu data tebyg, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn gweld pa broblemau o ran perfformiad mae angen mynd i'r afael â nhw," meddai.

"Ond nid yw'r canlyniadau arholiadau terfynol sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn cynnig y math yna o gymhariaeth i ni."