Cryfhau'r Gymraeg ar donfeddi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Mae'r ddarpariaeth gyfryngol yn y Gymraeg gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn brin iawn - tan nawr.

Er bod yna erthyglau Cymraeg rheolaidd ym mhapur newydd Gair Rhydd a weithiau yng nghylchgrawn Quench, sy'n rhan o ddarpariaeth gyfryngol y brifysgol i fyfyrwyr gan fyfyrwyr, doedd 'na ddim lle i lawer o'r Gymraeg ar orsaf radio Xpress Radio nac ar Cardiff Union TV, sianel deledu Undeb y Myfyrwyr.

Ond, diolch i ymgyrch gan fyfyrwyr sydd wedi ffurfio Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (CMCC), mae'r ddarpariaeth gyfryngol yn yr iaith yn cynyddu.

O hyn ymlaen bydd chwech awr o raglenni Cymraeg i'w clywed ar nosweithiau Iau a Gwener ar Xpress Radio.

Mae'r arlwy yn cynnwys rhaglenni fydd yn trafod chwaraeon, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth.

Am y tro cyntaf hefyd cafodd darllediad byw yn y Gymraeg ei weld yn ddiweddar ar Cardiff Union TV.

Disgrifiad o'r sainCriw o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfryngau'r myfyrwyr

Un o sylfaenwyr CMCC ydy Aled Huw Russell, myfyriwr ail flwyddyn sy'n astudio Newyddiaduraeth: "Fy ngweledigaeth i yw sicrhau awyrgylch sy'n galluogi i'r Gymraeg ffynnu yn y Brifysgol."

Mae CMCC yn gobeithio y bydd myfyrwyr newydd yn dangos diddordeb yn y cynllun fel y gall y gwasanaethau cyfryngol Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gael eu cryfhau ymhellach yn y dyfodol.

Stori: Ifan Jones-Edwards. Mae Ifan yn astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caedydd