Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Rhodri Llywelyn

  • Cyhoeddwyd
Rhodri Llywelyn

Y darlledwr Rhodri Llywelyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen i gof o gael fy nghnoi gan ŵydd, o gwympo mewn llwyn o ddail poethion, ac o gicio pêl ar Barc y Strade; ond does dim syniad gen i pa un ddaeth gyntaf.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jennifer Aniston yn Friends, Cameron Diaz yn There's Something About Mary, a Gwyneth Paltrow yn Sliding Doors. O am gael fy magu yn Hollywood!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mi ro'n ni mas yn siopa am deils newydd i'r gegin pan benderfynodd un o'r plant fynd i'r tÅ· bach ar ganol llawr y siop. Y tro nesaf i ni fynd yno roedd arwyddion wedi cael eu gosod yn rhybuddio rhieni i gadw eu plant dan reolaeth.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri wedi cael teithio'r byd yn gohebu i'r Â鶹ԼÅÄ. Dyma fo yn y Gemau Olympaidd yn Rio 2016

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Adeg marwolaeth Mam Llanelli (fy mamgu) y llynedd. Hi oedd y person mwyaf positif a droediodd y ddaear erioed. Seren ymhob ystyr, ac mi ro'n ni'n agos iawn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n cnoi fy ewinedd, yn gadael gwallt ar lawr y gawod ar ôl shafio fy mhen, yn siarad gyda fy hun pan yn ysgrifennu, ac yn gadael esgidiau ar draws y tŷ. Mae'n debyg.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mi wnes i ddyweddïo yn Sir Benfro, a ry'n ni'n treulio llawer o amser yn Solfach. Mae'n nefoedd ar y ddaear yno, a does dim teimlad gwell na cherdded ar hyd tywod yr harbwr pan fod y llanw mas neu ddal crancod o'r cei gyda'r plant.

O Archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mi wnes i wir fwynhau cyngerdd Coldplay yng Nghaerdydd eleni, a dwi newydd fod mas yn dathlu fy mhenblwydd yn 40. Ond mae'n debyg mai'r ateb cywir yw noson fy mhriodas - teulu, ffrindiau, Caryl a'r Band yn chwarae, ac mi roedd fy ngwraig yn disgwyl felly bu'n rhaid yfed ei siâr hi o champagne hefyd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cydwybodol. Egwyddorol. Moel.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Tra'n astudio ym Mhrifysgol Bryste, mi ro'n i a fy ffrindiau yn gwylio Dumb and Dumber o leia' unwaith yr wythnos. Mae'n ffilm hollol hurt, sydd wastad yn codi gwên.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Y Party Poppers. Dyna sut y byddai mam un o fy ffrindiau ysgol yn cyfeirio at ein criw ni. Ma' wastad digonedd o sbort pan fyddwn ni'n cwrdd lan. A dwi hyd yn oed yn gwybod beth yw'r rownd - chwerw i fi, Bonesey a Jontex; lager i Beard a Pops; a hanner shandi i Cliffy.

Ffynhonnell y llun, Dumb and Dumber
Disgrifiad o’r llun,

Pwy graciodd ei ddant blaen gyntaf? Rhodri neu Lloyd o Dumb and Dumber?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Edrychwch yn ofalus ac mae gen i chip ar un o fy nannedd blaen ar ôl deifio i mewn i bwll nofio a tharo'r gwaelod tra ar wyliau yn Sbaen pan yn blentyn. Doh!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Sgïo (heb anghofio'r ²¹±è°ùè²õ-²õ°ì¾±).

Beth yw dy hoff gân a pham?

Tonight, Tonight gan The Smashing Pumpkins. Byddai'r ateb wedi bod yn wahanol ddoe, ac mi fydd yn wahanol yfory. Ond byth ers gwrando arni ar gasét tra ar wyliau yn Ffrainc flynyddoedd maith yn ôl, mae hon yn gân dwi'n dychwelyd ati'n rheolaidd. Mae'r drymiau a'r llinynnau yn anhygoel.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Tapas wrth y bar i ddechrau, cyn eistedd lawr am stecen drwchus waedlyd ac yna hufen iâ fanila Cymreig i orffen.

Disgrifiad,

Gemau Olympaidd Rio 2016: Rhodri'n cyfweld Owain Doull, y Cymro Cymraeg cyntaf i ennill medal aur Olympaidd

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Usain Bolt ar noson rownd derfynol y 100 metr yng Ngemau Olympaidd Beijing, 2008. Roedd bod yno'n gwylio yn wefr, ac mi wnes i hyd yn oed redeg ar y trac ar ôl i'r stadiwm wagio. Ond i fod y dyn ei hun...

Pwy wyt ti'n ei enwebu i Ateb y Galw?

Wyre Davies

[Ond wythnos nesaf, bydd 'na westai arbennig yn Ateb y Galw... allwch chi ddyfalu pwy?]