Â鶹ԼÅÄ

Osian Roberts yn datgan diddordeb yn swydd rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Osian Roberts

Mae is-reolwr Cymru, Osian Roberts wedi datgan ei ddiddordeb yn y swydd o reoli Cymru.

Dywedodd ar raglen Ar y Marc, Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru "nad oes amheuaeth" ganddo y gallai "lwyddo yn y swydd."

Mae Cymru yn chwilio am reolwr newydd er mwyn cymryd yr awennau yn Sunderland.

Ychwanegodd Mr Roberts: "Mae'r saith mlynedd diwethaf wedi bod y daith fwyaf anhygoel.

Disgrifiad,

Mae Osian Roberts wedi bod yn rheolwr neu is-reolwr ar dros 300 o gemau rhyngwladol

"Does genai ddim amheuaeth gallai lwyddo yn y swydd, allai ddim bod mwy profiadol ar y lefel rhyngwladol heb wneud y swydd.

"Dwi wedi bod yn rheolwr neu is reolwr ar dros 300 o gemau rhyngwladol bellach."

Dyma'r tro cyntaf ers ymadawiad Coleman i Osian Roberts ddatgan gwir ddiddordeb yn y swydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf â'r Â鶹ԼÅÄ ers i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru, dywedodd

Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored.

Pwysleisiodd Mr Roberts ar raglen Ar y Marc ei fod yn credu bod "pharhad yn ffactor sy'n cael ei ddibrisio yn y gêm a dwi'n credu dylai'r chwaraewyr gael y cyfle gorau posibl i lwyddo a chyrraedd Ewro 2020."