Â鶹ԼÅÄ

Pryder am ddyfodol gwasanaeth bws ym Mhen LlÅ·n

  • Cyhoeddwyd
Arwydd ffordd wrth ddod mewn i AberdaronFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae pryder am ddyfodol gwasanaeth bws gwledig ym Mhen LlÅ·n oherwydd nad oes digon o arian i sicrhau y bydd y fenter yn parhau'r flwyddyn nesaf

Dywed Meinir Jones o gynllun O Ddrws i Ddrws fod angen tua £40,000 neu bydd dim modd i gynnal y gwasanaeth o fis Ebrill nesaf.

Mae gwasanaeth O Ddrws i Ddrws, prosiect cymunedol, yn cynnig gwasanaeth i bentrefi arfordir LlÅ·n rhwng dydd Iau a dydd Lun a rhwng misoedd Ebrill a Thachwedd.

"Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan bobl leol a phobl o'r tu allan, ac mae'n dod a phobl i'r ardal ac mae busnesau yn elwa," meddai Meinir Jones.

"Ma' 'na bobl o Loegr ond hefyd mae'n helpu hefyd i ddenu pobl o Fangor a llefydd fel Yr Wyddgrug sy'n hoffi mynd i ardal lle maen nhw'n clywed y Gymraeg.

"Ma' bobl leol hefyd yn hoffi cerdded yr arfordir ac mae'n gyfle i rywun fynd i gerdded a dal y bws yn ôl i'w gar."

3,000 o deithwyr

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn 2015, ac eleni fe gafodd 3,000 o deithwyr eu cludo o'i gymharu â 600 yn y flwyddyn gyntaf.

Mae'n cludo pobl rhwng Llanbedrog, Abersoch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn.

Ffynhonnell y llun, Google

Pan gafodd y prosiect ei sefydlu fe wnaeth dderbyn arian gan y Loteri Fawr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a banc Santander.

Dywedodd Meinir Jones: "Y broblem yw na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud penderfyniad am unrhyw gymhorthdal newydd tan fis Ebrill, ond dyna pryd y byddwn ni angen yr arian."

'Cynsail da'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r grant bellach wedi dod i ben ond mae wedi gosod cynsail da i O Ddrws i Ddrws chwilio am arian o ffynonellau eraill.

"Dangosodd gwaith arfarnu fod y bws yn boblogaidd â phobl leol ac ymwelwyr. Mae'n help i wella cysylltiadau gwledig tra'n rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth.

"Rydan ni'n dymuno'n dda i'r gymuned wrth iddyn nhw chwilio am ffynonellau newydd o arian."

Mae'r grŵp wrthi ar hyn o bryd yn gwneud cais am gymhorthdal i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, corff sy'n cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru.

"Be sy'n anodd ydy oni bai bod yna sicrwydd mae'n anodd trefnu ar gyfer y flwyddyn nesa' ac mae'n anodd wedyn cadw dreifars, mae'n gwneud pethau'n ansicr."

Roedd rhagor am y stori ar raglen ar Radio Cymru.