Diwedd y daith ar ôl codi dros £1m i Blant Mewn Angen

Ffynhonnell y llun, Clonc360/Â鶹ԼÅÄ

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Goronwy Evans y bydd ef a'i wraig yn "gweld ishe" codi arian

Mae cwpl o Lanbedr Pont Steffan yn dweud mai eleni fydd eu blwyddyn olaf yn codi arian tuag at Blant Mewn Angen - a hynny ar ôl casglu dros £1m i'r elusen.

Ers 35 mlynedd mae Beti a Goronwy Evans wedi bod yn hel arian yn flynyddol ar gyfer yr elusen, gan gydlynu ymdrechion ar draws Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.

Ychydig flynyddoedd yn ôl fe lwyddon nhw i groesi'r trothwy nodedig, gan gasglu dros £1m mewn rhoddion.

Maen nhw nawr yn gobeithio canfod gwirfoddolwyr eraill yn yr ardal fydd yn gallu parhau â'r gwaith.

'Rhan o fywyd y cylch'

"Byddai'n gweld ishe fe," meddai Goronwy Evans wrth siarad â Cymru Fyw.

"Ond beth sy'n bwysig yw'r ymateb sydd wedi bod. Mae cymaint o bobl ni wedi'u cynrychioli wedi cael arian i gynnal plant dan anfantais, ac mae cymaint wedi dod 'nôl wrth roi."

Ychwanegodd: "Mae e'n rhan o fywyd y cylch, achos bod ni 'di bod ynghlwm â fe ers 35 mlynedd.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd rhywun yn cymryd e arno, mae'n bryd cael lleisiau newydd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Aled Hughes yn un o'r rheiny sydd hefyd yn codi arian - cafodd groeso cynnes gan ddisgyblion Ysgol Pen Barras ar ei daith feicio yn gynharach yn yr wythnos

Dydd Gwener yw diwrnod Apêl Plant Mewn Angen, ac yn y cyfamser mae ysgolion, clybiau ac unigolion ar draws Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer eu heriau eu hunain i godi arian.

Un o'r rheiny yw cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, sydd wedi bod yn ceisio cwblhau taith feicio o gwmpas Cymru.

Yn ystod yr wythnos mae'r darlledwr wedi bod yn ceisio ymweld â 60 o ysgolion gwahanol, a bydd yn cwblhau'r her ddydd Gwener gyda'r cymal olaf o Aberdaron i Fangor.

Llynedd cafodd dros £2.5m ei godi yng Nghymru ar y noson - bron i filiwn yn fwy nag yn 2015 - gyda'r cyfanswm ar draws y DU yn cyrraedd dros £45m.