Â鶹ԼÅÄ

Sam Tân yn 30!

  • Cyhoeddwyd
nia a sam
Disgrifiad o’r llun,

Nia Ceidiog wnaeth sgriptio Sam Tân

Mae dyn tân mwyaf adnabyddus Cymru'n dathlu pen-blwydd arbennig iawn eleni.

Ar 17 Tachwedd 1987, cafodd Sam Tân ei ddarlledu gyntaf ar S4C, ac mae wedi bod yn agos i galonnau cenedlaethau o blant Cymru a thu hwnt ers hynny.

Dau gyn-ymladdwr tân o Sir Caint gynigiodd y syniad gwreiddiol i'r dyn wnaeth greu Superted, yr animeiddiwr Mike Young.

Y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog gafodd y gwaith o ddod â'r cymeriad eiconig a thref Pontypandy yn fyw ar S4C. Bu Nia yn sôn rhagor wrth Cymru Fyw am y cymeriadau poblogaidd:

Disgrifiad,

Nia Ceidiog yn trafod gwreiddiau Sam Tân

Ro'n i'n gwybod yn syth y bydda fo'n hit.

Mae plant yn uniaethu gyda phlant. Mae Norman yn hogyn drwg ond mae pawb yn ei garu fo. Mae 'na lot o hwyl ynddo fo, lot o hiwmor.

Roedd yn rhaid i Sam, fel popeth arall, symud gyda'r amser. Mae o wedi mynd yn fwy a fwy lliwgar efo defnydd helaeth o CGI.

Ond mae 'nghalon i yn dal gyda chrefft y gwreiddiol a'r gwaith rhyfeddol wnaeth yr hogia' o greu'r modelau. Mae 'na rhywbeth crefftus am hynna.

Disgrifiad o’r llun,

Llinell amser un o straeon gwreiddiol Sam Tân cyn i'r animeiddio ddigwydd