Cymorth camdriniaeth dynion: 30 mlynedd ar ei h么l hi

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Yn y gorffennol roedd hi'n anodd argyhoeddi pobl bod yna angen am wasanaethau penodol i ddynion

Yn 么l elusen sy'n cynnig help i ddynion sy'n diodde' camdriniaeth ddomestig, mae'r gefnogaeth sydd ar gael "30 neu 40 mlynedd" ar ei h么l hi o gymharu gyda merched.

Cafodd The Dyn Project ei sefydlu gan Safer Wales yn 2006 - y gwasanaeth cyntaf oedd yn benodol ar gyfer dynion.

Yn 么l y rheolwr Simon Borja, maen nhw'n derbyn dros 1,000 o geisiadau am gymorth bob blwyddyn.

172 oedd y ffigwr pan oedden nhw'n dechrau.

Stori Lewis Bedding

"Roedd y sefyllfa mor wael nes i feddwl ei fod e falle mynd i'n lladd i. Felly nes i feddwl 'pam na wn芒i wneud gyntaf?'"

"Nes i gymryd gorddos."

Mae Lewis Bedding o dde Cymru yn dweud iddo gael ei gam-drin gan ei gyn-bartner.

"Fe ddaeth e i'r ysbyty i weld fi a dweud pan fydden ni yn dod adre y bydde pethe'n gwaethygu."

Dechrau eto

"'Odd rhaid i fi ddweud wrth y t卯m iechyd meddwl mai fy mai i oedd y cyfan."

"Yn amlwg 'odd y cleisiau ddim yn cyd-fynd gyda fi yn disgyn lawr y grisiau na'r gorddos."

Dim ond ar 么l iddo gael ei adfywio ddwywaith wnaeth Lewis benderfynu bod rhaid i bethau newid.

Fe symudodd i fyw i loches ac mae wedi llwyddo i ail adeiladu ei fywyd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lewis Bedding wedi cael help gan yr elusen Gwalia i newid ei fywyd

'Cywilydd'

Tra'n dweud bod dynion Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well na rhai rhannau o Brydain mae'n dweud bod angen "gwella ymwybyddiaeth" o'r materion er mwyn annog mwy o ddynion i ofyn am help.

Mae Mr Borja yn dweud bod cynnydd go iawn wedi bod yn y ddegawd ddiwethaf ond bod mwy o waith i wneud.

"Beth sydd wedi gweithio'n dda yw ymwybyddiaeth gyda chyrff fel yr heddlu, asiantaethau tai, swyddogion tai ac yn y blaen. Pan oedden ni'n dechrau mi oedd gyda ni tua 170 o gysylltiadau (ailgyfeirio a galwadau ff么n).

"Nawr mae gyda ni dros 1,000 yng Nghymru'n hawdd."

"Mae'n gynnydd anferth... Ond dyw hynny ddim yn awgrymu ei fod yn digwydd yn fwy aml i ddynion. Mae e jest achos bod yna gefnogaeth a rhywle iddyn nhw fynd ac ymwybyddiaeth eang."

Mae'r nifer o ddynion sy'n cysylltu, meddai, ddim yn sylweddoli eu bod nhw'n ddioddefwyr ac yn "gyfrinachol" ac wedi "cywilyddio".

Tra bod y gefnogaeth meddai yn gallu bod yn "fratiog" mae'n ymwybodol o dair lloches i ddynion yng Nghymru, i gymharu gyda naw ar draws Prydain.

"Rydyn ni'n aml yn dweud ein bod ni 30 neu 40 mlynedd tu 么l i wasanaethau merched...achos 30 neu 40 mlynedd yn 么l mae'n si诺r mai dim ond un lloches i fenywod oedd yn bodoli, nawr mae llawer mwy.

"Felly mae gyda ni ffordd i fynd ond mae'n ymwneud gyda'r hyn sydd angen, ac yn fwy pwysig beth mae dynion eisiau."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Simon Borja mae mwy i wneud i godi ymwybyddiaeth fel bod mwy o ddynion yn gofyn am help

Mae'r elusen yn darogan bod tua 20% o'r dynion sydd yn cael cymorth yn hoyw, deurywiol neu trawsryweddol ac yn y gorffennol roedd hi'n anodd argyhoeddi pobl bod yna angen am wasanaethau penodol i ddynion.

Mae'r sefyllfa wedi newid am fod yna dystiolaeth wedi ei gofnodi erbyn hyn.

Ond mae angen codi ymwybyddiaeth i annog dynion i ofyn am help, meddai.

"Mae rhai o'r materion diwylliant ymhlith dynion, yn enwedig dynion gwahanrywiol fel 'bydd yn gryf' a 'fe alli di ddygymod gyda hyn', dyna yw'r rhwystrau."

Help ar gael

Yn 么l Lewis Bedding mae'n bwysig i ddynion ddeall bod help ar gael.

"Dw i wedi bod yn un o'r bobl na sy'n dweud, 'pam bod nhw ddim wedi gadael'.

"Mae'n chwalfa feddyliol. Cyn iddyn nhw eich cyffwrdd chi'n gorfforol, maen nhw wedi eich dinistrio chi'n feddyliol."

"Mae dynion angen bod yn ymwybodol bod yna rhywle iddyn nhw droi."

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mai menywod a merched sy'n diodde'n bennaf o drais o bob math, rydym yn cydnabod y gall dynion ddiodde' hefyd.

"Dyna pam yr ydym yn ariannu cynlluniau i gefnogi dioddefwyr gwrywaidd, gan gynnwys Project Dyn, sy'n darparu cefnogaeth eiriol i ddynion.

"Dylai gwasanaethau gael eu teilwra a'u harwain gan anghenion yr unigolyn. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Trais yn y Cartref a Thrais Rhyw (Cymru) 2015."