Â鶹ԼÅÄ

Mark Drakeford yn cynnig 'cefnogaeth lawn' i Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn dweud bod gan y prif weinidog ei "gefnogaeth lawn" am y cyfnod mae'n "fodlon cario 'mlaen" wedi marwolaeth Carl Sargeant.

Dywedodd wrth raglen Good Evening Wales ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales y byddai Carwyn Jones wedi gofyn i'w hun "dro ar ôl tro" os allai fod wedi gwneud pethau'n wahanol.

Ychwanegodd nad ydy'n "cydnabod" .

Bu farw Carl Sargeant ddyddiau wedi iddo golli ei swydd yn y llywodraeth yn dilyn honiadau o ymddygiad annerbyniol.

Mewn dyfarniad cychwynnol ddydd Llun, fel "gweithred debygol o hunan niwed" oedd achos ei farwolaeth.

'Wythnos ryfeddol o galed'

Gan gyfeirio at y bwriad i , dywedodd Mr Drakeford bod angen "gadael i'r broses fynd rhagddi".

Ond dywedodd bod y prif weinidog wedi "wynebu wythnos ryfeddol o galed yn bersonol".

Ychwanegodd: "Dwi'n credu ei fod yn gwneud ei orau glas i ymateb yn onest i'r pryderon sy'n cael eu codi.

"Dydw i ddim yn credu bod codi cwestiynau am ei ddyfodol yn helpu o gwbl i ddatrys rhai o'r materion ry'n ni wedi'u trafod.

"Mae e wedi bod yn brif weinidog llwyddiannus iawn a tra'i fod e'n fodlon cario 'mlaen a dal y pwysau personol sylweddol iawn mae hyn yn ei roi arno, yna yn sicr fe fydd ganddo fy nghefnogaeth lawn."