Cynnal gŵyl ffilm ieuenctid mwya'r byd yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Into Film Cymru

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Rhys Ifans bod yr ŵyl yn "agor byd o bosibiliadau i bawb"

Bydd gŵyl ffilm ieuenctid mwyaf y byd yn cael ei chynnal ledled Cymru am dros bythefnos o ddydd Mercher ymlaen.

Yr elusen addysg, Into Film Cymru sy'n cynnal yr ŵyl, fydd yn digwydd mewn gwahanol leoliadau rhwng 8 ac 24 Tachwedd.

Bydd Gŵyl Into Film yn cynnig dros 200 o ddangosiadau a digwyddiadau am ddim i blant rhwng pump a 19 mlwydd oed ledled Cymru.

Gobaith yr elusen yw tynnu sylw athrawon at werth ffilm mewn addysg i bobl ifanc, fel ffordd o "godi cyrhaeddiad addysgol a hybu rhagolygon gyrfa".

Bydd yr ŵyl yn agor yn Sinema Pafiliwn Pier Penarth nos Fercher gyda dangosiad arbennig o ffilm newydd Blade Runner 2049.

'Cyfrwng arbennig'

Un ffigwr blaenllaw sydd wedi bod yn gefnogol o waith Into Film Cymru yw'r actor Rhys Ifans.

"Mae ffilm yn gyfrwng arbennig, mae'n mynd a myfyrwyr ar antur arbrofol a chyffrous, beth bynnag eu cefndir neu gallu," meddai.

"Yr hyn sy'n wych am Into Film Cymru - a'r ŵyl ffilm sy'n rhad ac am ddim - yw'r ffordd y maent yn agor byd o bosibiliadau i bawb, waeth faint o arian sydd ganddynt yn eu pocedi."

Disgrifiad o'r llun, Gobaith yr elusen yw tynnu sylw athrawon at werth ffilm mewn addysg i bobl ifanc

Ychwanegodd Non Stevens, pennaeth Into Film Cymru: "Rydym yn gweld ffilm fel offeryn pwerus i gefnogi nid yn unig ein system addysg yng Nghymru ond yr economi.

"Ffilm yw'r diwydiant sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac yn cynhyrchu bron i £1bn y flwyddyn.

"Mae'n bwysig bod pob un plentyn yn cael pob chwarae teg i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i wylio, gwneud a deall ffilm.

"Gyda mwy a mwy o blant yng Nghymru yn byw dan y llinell dlodi, mae Into Film yn benderfynol o sicrhau bod ffilm ar gael i bawb."

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal gan Into Film ledled y DU fel rhan o fenter barhaus i osod ffilm "wrth wraidd dysgu a datblygiad personol pobl ifanc".

Mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau'r ŵyl ar gael .