Â鶹ԼÅÄ

Ailagor Tafarn Sinc wedi ymgyrch gymunedol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tafarn Sinc yn ailagor yn swyddogol

Mae trigolion ardal Maenclochog a Rhosybwlch yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn dathlu ddydd Mawrth wrth i'r dafarn leol ailagor.

Ar ôl Tafarn Sinc.

Roedd pryder y byddai'r tafarn yn cau am byth ar ôl i'r cyn berchnogion fethu â dod o hyd i brynwr.

Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am £295,000.

Disgrifiad o’r llun,

Grwp cymunedol sydd nawr yn berchen ar Tafarn Sinc

Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe .

Yn ôl cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, fe lwyddodd y fenter i godi £220,000 drwy werthu cyfranddaliadau.

"Y nod yw codi cronfa'r cyfranddaliadau i £375,200, a bydd modd prynu cyfranddaliadau tan o leiaf Mawrth 2018."

I ddathlu'r achlysur, Hefin Wyn, un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc, wnaeth gyflwyno'r peint cyntaf i Ryan John, un o selogion y dafarn.