Cynllun i ddiogelu swyddi trwy fuddsoddiad ffatri sment

Ffynhonnell y llun, Hanson

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffatri wedi bod yn cynhyrchu sment ers 1949

Byddai buddsoddiad o £20m er mwyn moderneiddio ffatri sment yn diogelu 96 o swyddi, medd adroddiad gan Gyngor Sir y Fflint.

Mae cwmni Hanson Cement eisiau gosod melin 34 metr ar ei safle ger Yr Wyddgrug er mwyn gallu malu sment.

Mae'r cwmni hefyd eisiau moderneiddio eu cilffyrdd fel bod modd i'w deunyddiau gael eu dosbarthu trwy ddefnyddio trenau.

Er bod pryderon gan rai am allyriadau mae argymhelliad i gymeradwyo'r cynlluniau.

Ond mae disgwyl i amodau gael eu gosod ynglŷn â materion fel llwch.

'Gwella effeithiolrwydd'

Yn ôl y cwmni bydd y cynlluniau yn "gwella effeithiolrwydd, yn lleihau'r ynni fydd yn cael ei ddefnyddio ac yn cynyddu cynnyrch".

Mae sment yn cael ei wneud trwy gynhesu calchfaen a mwynau eraill gyda'i gilydd er mwyn creu clincer neu beli bach llwyd.

Mae'r peli yma wedyn yn cael eu malu yn fân i greu sment.

Mae'r ffatri wedi bod yn cynhyrchu sment ers 1949 ac mae ganddynt bedwar melin weithredol ond y gred yw eu bod yn "hen ac aneffeithiol".

Dyw'r melinau ddim yn gallu newid y peli i sment ar y safle, sy'n golygu eu bod yn gorfod cael eu dosbarthu i safle arall i gael eu malu.

Bydd y felin newydd yn gallu malu hyd at 650,000 o dunelli o'r peli er mwyn creu'r sment pob blwyddyn.