Nifer o gamerâu cyflymder ddim yn cael eu defnyddio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae data newydd yn dangos nad yw hanner camerâu cyflymder Prydain yn weithredol - yn eu plith camerâu yn ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu'r De.

Mae'r data wedi cael ei ddarparu gan PA (Press Association) wedi iddyn nhw wneud cais drwy ryddid gwybodaeth i 45 o heddluoedd ar draws y DU.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Arolygwyr yr Heddlu "mater gweithredol yw camerâu cyflymder" a heddluoedd pob rhanbarth sy'n gyfrifol am y camerâu.

  • Mae gan Gwent 17 camera cyflymder sefydlog ond dim ond 8 sy'n weithredol.
  • Yn Ne Cymru mae 88 camera sefydlog ac y mae 59% o'r rhai hynny yn weithredol.

Dywedodd Edmund King ar ran yr AA: "Cwtogiadau mewn grantiau diogelwch ffyrdd sy'n gyfrifol am focsys gwag melyn ac mae camerâu digidol, er yn effeithiol, yn ddrud iawn."

Ychwanegodd: "Ers tro mae camerâu wedi bod yn cael eu symud rhwng safleoedd - hynny yn ddibynnol ar y galw.

"Ond mae'n bwysig bod gyrwyr yn cofio bod nifer o gamerâu cudd mewn grym. Y cyngor gorau yw glynu at y cyfyngiadau cyflymder."

Ffynhonnell y llun, PA

Yn ôl llefarydd ar ran Safe Speed, sy'n ymgyrchu i gael mwy o blismyn dyw camerâu cyflymder sefydlog ddim byd "i wneud â diogelwch ffordd" ac y mae cael plismyn yn llawer iawn yn fwy effeithiol.

Ond yn ôl Neil Greig, cyfarwyddwr polisi IAM Road Smart: "Mae camerâu yn cael eu gosod am resymau diogelwch. Mae gan bob un lleoliad ryw fath o broblem sydd wedi arwain yn y gorffennol at ddamwain ffordd ac mae camerâu diogelwch yn cael eu gosod er mwyn amddiffyn y bobl sy'n byw gerllaw."