Arweinwyr Cynulliad i drafod aflonyddu
- Cyhoeddwyd
Fe fydd arweinwyr pleidiau'r Cynulliad yn cwrdd â'r Llywydd yr wythnos nesaf i drafod ymddygiad rhywiol amhriodol.
Yn ôl y Comisiwn y Cynulliad, dydyn nhw heb dderbyn cwyn am aelodau yn aflonyddu eraill rhywiol.
Ond maen nhw'n dweud y bydd y cyfrafod yn ystyried oes lle i "wneud mwy" fel bod gweithwyr yn "ddiogel".
Wrth i unigolion rannu eu profiadau o aflonyddu yn y gweithle, mae elusen Chwarae Teg wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r achosion hynny.
Yn gynharach ddydd Iau, , bod gwleidydd wedi cyffwrdd ei chlun "mewn ffordd oedd yn awgrymu ei fod eisiau mynd ymhellach" pan oedd yn gweithio ym Mae Caerdydd.
Nos Fercher, fe ymddiswyddodd ysgrifennydd amddiffyn Llywodraeth y DU, Syr Michael Fallon, gan ddweud bod ei ymddygiad ar adegau'n "is na'r safon ddisgwyliedig".
'Angen ymchwiliad annibynnol'
Yn eu datganiad, mae Comisiwn y Cynulliad yn cydnabod y "posibilrwydd" bod diwylliant o'r fath yn y Cynulliad hefyd.
Dywedodd elsuen Chwarae Teg y dylai ymchwiliad annibynnol gael ei sefydlu, gan alw hefyd ar i bleidiau unigol weithredu.
"Ond mae'n amlwg nad yw hyn yn ymwneud â San Steffan, y Cynulliad na Hollywood yn unig, ond mae'n dangos bod ffordd bell i fynd i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol rhwng dynion a merched," meddai prif weithredwr yr elusen, Cerys Furlong.
"Mewn gwirionedd, mae hyn yn gofyn am gamau gweithredu strwythurol, ymarferol megis sefydlu llinell gymorth, staff â chyfrifoldeb penodol a rheolau newydd, a hefyd newidiadau go iawn i'r cyfryngau a diwylliant o gwmpas y materion hyn.
"Mae angen inni barhau i addysgu dynion a merched ifanc am gydraddoldeb a pherthnasoedd, ac mae angen inni bwysleisio mwy ar gyfer gweithleoedd gwirioneddol fodern, lle gall dynion a merched gyflawni eu llawn botensial yn rhydd o unrhyw fath o wahaniaethu, aflonyddu neu gamdriniaeth ar sail rhyw."
Galwad elusen Cymorth i Ferched Cymru yw cael "cymorth i ferched allu siarad am eu profiad mewn sefyllfa ddiogel ac heb farnu".
Dywedodd y mudiad bod "angen gweithredu os ydyn ni o ddifrif am sicrhau bod pawb yng Nghymru yn medru byw bywyd heb aflonyddu a cham-drin rhywiol".
Mae cais i arweinwyr pleidiau'r Cynulliad gyfarfod gyda'r Llywydd, Elin Jones, ddydd Mawrth nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017