Â鶹ԼÅÄ

Arwerthiant er cof am James Corfield yn codi £30,000

  • Cyhoeddwyd
James CorfieldFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae arwerthiant er cof am ddyn 19 oed a fu farw ar ôl mynd ar goll tra'n ymweld â'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi codi £30,000 ar gyfer tîm achub mynydd lleol.

Bu'r gwasanaethau brys yn chwlio am James Corfield o Drefaldwyn ar ôl iddo adael tafarn yn Llanfair-ym-Muallt yn oriau man dydd Mawrth, 25 Gorffennaf.

Yn ogystal â'r gwasanaethau brys bu Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, aelodau o fudiad y Ffermwyr Ifanc ac aelodau Clwb Criced Trefaldwyn yn chwilio am Mr Corfield a fu ar goll am rai dyddiau.

Cafwyd bum niwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd yr arwerthiant ei gynnal yn farchnad anifeiliaid y Trallwng.

Ar ôl y digwyddiad cyhoeddodd Cyngor Powys eu bod yn sefydlu Grŵp Gweithredu Diogelwch Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru er mwyn "helpu i wella diogelwch y bobl sy'n dod i'r Sioe, y Pentref Ieuenctid, Penmaenau a Llanfair-ym-Muallt".