鶹Լ

Ymchwiliad McEvoy yn cymryd 'hirach na'r disgwyl'

  • Cyhoeddwyd
McEvoy

Mae ymchwiliad gan Blaid Cymru i ymddygiad yr Aelod Cynulliad Neil McEvoy yn cymryd yn hirach na'r disgwyl, meddai'r blaid.

Dechreuodd y blaid yr ymchwiliad mewnol ym mis Mawrth ar ôl i dribiwnlys ddarganfod iddo wneud .

Wyth mis yn ddiweddarach, mae'r ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd llefarydd bod yr oedi wedi achosi "rhwystredigaeth ddealladwy" ond bod camau wedi eu cymryd i ddelio gyda chwynion yn gyflymach.

Cafodd yr ymchwiliad ei gyhoeddi ar ôl i honiadau gael eu gwneud am ymddygiad AC Canol De Cymru.

Rhai misoedd yn ddiweddarach fe wnaeth panel disgyblu'r blaid gyfarfod i ystyried a oedd lle i ymchwilio ymhellach.

Diwrnodau yn ddiweddarach cafodd Mr McEvoy ei wahardd o'r grŵp yn y Cynulliad, penderfyniad mae'n apelio yn ei erbyn.

'Rhwystredigaeth'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru bod y broses wedi cymryd cyfnod hirach na'r disgwyl, oedd wedi achosi "rhwystredigaeth".

"Mae'r fframwaith bellach mewn grym i ddelio gyda chwynion yn gyflymach ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael datrysiad buan," meddai.

"Ond gan fod yr ymchwiliad yn parhau ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Ym mis Medi, dywedodd Mr McEvoy bod "ymgyrch i geisio niweidio" ei enw da.