Ateb y Galw: Rhydian Bowen Phillips

Ffynhonnell y llun, Rhydian Bowen Phillips

Y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Emily Tucker wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae yn hapus fy myd yn y bocs tywod gyda ffrindiau yn ysgol feithrin Maes yr Haf yn y Rhondda. Dyddiau hapus, di-drafferth!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ha, ble mae dechrau?! Carrie Fisher fel Princess Leia - oedd pawb yn yr ysgol yn ffansio hi! Belinda Carlisle, Elisabeth Shue, sy'n chwarae cariad Daniel yn The Karate Kid ac sy'n actio gyda Tom Cruise yn Cocktail. Kylie Minogue. Cindy Crawford. Lynda Carter, y Wonder Woman gwreiddiol. Ond yr un mawr, mae rhaid gweud, dal hyd heddiw yw Britney Spears!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fel Cymro - Brexit!

Ar lefel bersonol, unrhyw bryd 'nai chwifio a gweiddi ar rywun fi'n 'nabod yn y stryd a dy'n nhw ddim yn fy ngweld a fi'n gorfod steilio fe mas rhywsut heb edrych fel gormod o idioto flaen pawb arall o gwmpas...

Disgrifiad o'r llun, Mae Britney yn amlwg wedi taflu gwayw drwy galon Rhydian...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dyw e ddim yn cymryd lot i 'neud i fi grïo - fi'n eitha' emosiynol. Golygfeydd pwerus mewn ffilm neu ar deledu. Mae darn o gerddoriaeth yn gallu mynd â fi nôl i gyfnodau hapus sydd wedyn yn 'neud fi'n drist achos bod y cyfnodau yna ar ben a dyw'r bobol yna ddim yma rhagor. Nes i ddigwydd gwrando ar Pan fo'r nos yn hir gan Ryan a Ronnie yn ddiweddar ac mae rhywbeth am y gân yna sy'n fy nghael i bob tro!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n cnoi fy ngwinedd pan fi'n nerfus a bydden i'n lico gallu stopio hwnna! Mae rhaid bo' fi'n nerfus lot (tra'n gwylio Caerdydd/Cymru yn chwarae pêl-droed gan amla'…)!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fel un o'r Porth yn y Rhondda yn wreiddiol bydde fan'na wastad yn 'adre' i mi, er s'dim teulu yno rhagor, a fi wedi byw yn Grangetown, Caerdydd nawr ers bron i 15 mlynedd, a mae fan'na nawr yn teimlo'n gartrefol iawn 'fyd!

Felly 'nai 'weud rhywle arall yn gyfangwbwl. Portmeirion - es i yna am y tro cyntaf yn ddiweddar ac mae e mor wahanol i unrhywle arall yng Nghymru. Am brydferth!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

'Nai 'weud, er gwaetha'r canlyniad, clywed yr anthem heb gerddoriaeth cyn Cymru v Gweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar. O'n i yna fel llais y stadiwm ac oedd hwnna reit lan yna fel yr anthem orau erioed, dim dadl, a byddai'n cofio hynny am byth.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Rhydian a chyd-ffan Cymru Yws Gwynedd (a miloedd o gefnogwyr eraill) lawer o hwyl yn dilyn Cymru yn Ffrainc y llynedd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Rhydian. Bowen. Phillips. Na, jôc! Sensitif. Poleit. Doniol. (Efallai 'newch chi anghytuno gyda'r un olaf yna!)

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fi ddim yn un am ddarllen lot, er bo' eitha tipyn o lyfrau gen i! Newydd ddarllen Rise of the Super Furry Animals gan Ric Rawlins a 'nes i joio hwnna yn fawr.

O ran ffilmiau, mae e mor anodd i ddewis un gan fod cannoedd o DVDs a Blu Rays gen i. Back to the Future, Goonies, Pulp Fiction, Jaws, Magnolia, Shaun of the Dead, Ghostbusters i enwi rhai o fy hoff ffilmiau, ond os oedd rhaid dewis un… Star Wars IV: A New Hope.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gallai ddewis byw a marw? Byw - Gareth Bale, er 'sai'n credu bod e'n yfed alcohol, bydde fe'n wych i gael sgwrs gyda fe 'ta beth.

Marw - Fred Keenor, capten clwb pêl-droed Cardiff City pan enillon nhw gwpan yr FA nôl yn 1927. Mae 'na gofgolofn iddo tu fas i stadiwm Dinas Caerdydd ac mae ei hanes yn ddifyr iawn.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i datŵ ar fy asennau ar fy ochr dde, i gydfynd â'r un mawr o'r ddwy law ar fy mraich, sef un o'r cerddi cyntaf fi'n cofio ers pan o'n i'n ifanc iawn, iawn:

"Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun wrth ymyl fy ngwely i, bob bore a nos mae'r weddi'n un dlos, mi wn er na chlywaf hi."

Disgrifiad o'r sainRhydian Bowen Phillips yn sgwrsio am ei datŵ a'r rhesymau tu nôl i'r gwaith celf

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael DJs i chwarae fy hoff ganeuon, tra'n chwerthin gyda fy nghariad Chel, teulu a ffrindiau - os fyddai yn ddigon lwcus i gael y cyfle i fod gyda nhw ar y diwrnod olaf ar ôl byw i fod yn 110!

Beth yw dy hoff gân a pham?

O waw, mae 'na gymaint o ddewis ac mae'n newid trwy'r amser. Mae miloedd o CDs 'da fi. Mae well gen i CDs a feinyl achos mae'n teimlo fel bo' chi wir yn berchen ar y gerddoriaeth ac mae'n fwy o broses pleserus i wrando.

Hmmm… Paid â gofyn gan Tricky Nixon (Joy Formidable erbyn heddiw) yw un o fy hoff ganeuon Cymraeg yn ogystal â pherfformiad Geraint Griffiths o Esgair yng Ngyngerdd y Mileniwm i Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

Yn Saesneg mae Â鶹ԼÅÄtown Unicorn gan Super Furry Animals yn anhygoel a byddai yn lico Charly gan The Prodigy am weddill fy oes!

Disgrifiad o'r llun, Wyt ti'n siŵr mai nid Meganomeg yw dy hoff gân di, Rhydian?!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - calamari neu whitebait. Prif gwrs - cawl Dad. Pwdin - bara brith fy Mam!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hal Robson-Kanu, diwrnod y gêm yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Martyn Geraint