Â鶹ԼÅÄ

Grav yn Efrog Newydd

  • Cyhoeddwyd
Mae 'na ddeng mlynedd ers marwolaeth Ray Gravell
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na 10 mlynedd ers marwolaeth y cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr, Ray Gravell

Bydd sioe sy'n dathlu bywyd Ray Gravell yn cael ei llwyfanu yn Efrog Newydd y flwyddyn nesaf.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar 31 Hydref, ddeng mlynedd union ers marwolaeth y cyflwynydd a'r cyn-chwaraewr rygbi poblogaidd o Fynyddygarreg.

Theatr y Torch yn Aberdaugleddau wnaeth lwyfannu'r sioe yn wreiddiol gyda Gareth John Bale yn portreadu'r Cymru eiconig.

Cysylltiadau gyda'r dref yn Sir Benfro sy'n rhannol gyfrifol pam y bydd y sioe yn croesi'r Iwerydd.

Ffynhonnell y llun, Ceri Coleman Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Gareth John Bale mewn golygfa deimladwy o'r sioe 'Grav'

Mae perchnogion tafarn Cantre'r Gwaelod (Sunken Hundred) yn Efrog Newydd yn hannu o Aberdaugleddau ac maen nhw wedi cydweithio gyda'r Actors Theatre Workshop yn Manhattan i sicrhau y bydd y sioe yn cael ei llwyfannu yno ar 16 a 17 Mawrth 2018.

Cyn y sioeau bydd 'na chydig o naws rygbi Cymru yn Cantre'r Gwaelod a bydd Gareth John Bale yn darllen rhannau o'r sgript.