Â鶹ԼÅÄ

Aflonyddu rhywiol: Carwyn Jones yn galw am gyfarfod brys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhaid cael "system gadarn" yn ei le medd Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am "gyfarfod brys rhwng pob plaid" yn y Cynulliad yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn San Steffan.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd modd cymryd yn ganiataol "mai rhywbeth yn ymwneud â diwylliant San Steffan yn unig yw hyn".

"Mae pawb yn haeddu parch a diogelwch," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n galw am weithredu cadarn yn ystod ei gyfarfod gyda Theresa May ddydd Llun.

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi galw yn barod am system gwynion newydd.

Yn y cyfamser mae'r cyn-Aelod Seneddol Jenny Willott, sydd nawr yn aelod o'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, wedi dweud bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i bobl sydd yn gweithio i ASau.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn dweud nad oes modd cymryd yn ganiataol "mai rhywbeth yn ymwneud â diwylliant San Steffan yn unig yw hyn"

Daw hyn yn sgil nifer o honiadau ynglÅ·n ag ymddygiad rhai ASau.

Mewn cyfres o drydariadau dywedodd Mr Jones: "Bydda i'n ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad heddiw, yn gofyn iddi alw cyfarfod brys rhwng pob plaid.

Pawb yn 'haeddu parch'

"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod trefn gadarn yn ei lle, a bod pobl yn teimlo'n ddigon diogel a hyderus i dynnu sylw at y rhai sy'n camymddwyn.

"Ddylen ni ddim cymryd mai rhywbeth yn ymwneud â diwylliant San Steffan yn unig yw hyn: mae pawb yn haeddu parch a diogelwch."

Dywedodd Ms Willott, oedd yn AS dros Ganol Caerdydd rhwng 2005 a 2015, fod pleidiau gwleidyddol wedi cyflwyno polisïau yn erbyn aflonyddu rhywiol a chod ymddygiad yn sgil "y trafferthion gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Arglwydd Rennard".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jenny Willott mae angen proses mwy swyddogol er mwyn delio gyda unrhyw gwynion

"Mae'n amlwg bod hynny ddim wedi gweithio mor dda ac efallai roedden ni wedi gobeithio," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

"Felly efallai ein bod ni nawr angen edrych ar brosesau mwy swyddogol, fel bod 'na lwybr mwy ffurfiol i weithwyr os ydyn nhw'n cael problemau gydag Aelodau Seneddol, hyd yn oed os yw e yn erbyn Aelod Seneddol nad ydyn nhw yn gweithio ar eu cyfer."

Cefnogaeth

Mae'n dweud bod y corff mae'n aelod ohono wedi dechrau siarad gyda'r awdurdodau yn Nhŷ'r Cyffredin tua blwyddyn yn ôl "er mwyn gweld os allwn ni fod yn siŵr bod yna ryw fath o gefnogaeth annibynnol ar gyfer staff".

"Maen nhw mewn sefyllfa reit fregus am eu bod nhw'n cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan Aelod Seneddol, sy'n golygu os oes ganddyn nhw Aelod Seneddol sy'n gefnogol ac yn helpu mae hynny yn hollol iawn," meddai.

"Ond os oes gyda chi broblem gyda'ch pennaeth, mae'n anodd iawn i aelodau o'r staff wybod lle i fynd ac at bwy i droi."

Dim honiad swyddogol

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad y bydd y Llywydd yn trafod gyda'r pleidiau gwleidyddol os oes "mwy allai gael ei wneud er mwyn gwneud i bawb deimlo'n ddiogel a'u parchu yn y gweithle".

Ychwanegodd nad oes unrhyw honiad swyddogol o aflonyddu rhywiol wedi ei wneud at y comisiwn ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu.

"Maen nhw'n deall y problemau sy'n cael ei amlygu yng nghymdeithas ar hyn o bryd a'r posibilrwydd eu bod nhw'n bodoli yn y Cynulliad hefyd," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd y comisiwn bod polisïau yn eu lle i ddelio gydag ymddygiad annerbyniol, bod cod ymddygiad y mae disgwyl i ACau a staff cynorthwyol lynu ato, a bod cefnogaeth ar gael.