Diffyg Cymraeg ar drenau Great Western yn 'annerbyniol'

Ffynhonnell y llun, GWR

Mae penderfyniad i beidio rhoi arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau newydd sy'n gwasanaethu de Cymru yn "hollol annerbyniol", yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg.

Daeth sylwadau Alun Davies ar ôl i gwmni Great Western Railway ddweud "nad oes bwriad" rhoi arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar eu trenau newydd.

Dechreuodd y trenau newydd wasanaethu yn gynharach yn y mis, er i'r teithiau cyntaf gael eu hamharu gan broblemau technegol.

Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Great Western nad oedd gwasanaethau Cymraeg gan nad yw'r trenau ar gyfer Cymru yn unig.

'Hynod siomedig'

Roedd Great Western yn ymateb i gwestiwn gan gyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, ar Twitter.

Gofynnodd a fyddai'r trenau Hitachi newydd, sy'n teithio ar y rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, yn cynnwys arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

Wrth ymateb iddo, dywedodd y cwmni "nad oes bwriad cynnig arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar y trenau" gan ddweud bod hynny am nad yw'r trenau ar gyfer Cymru yn unig.

Ychwanegodd y llefarydd: "Nid yw'r trenau yma yn rhedeg yng Nghymru yn unig a byddan nhw'n rhedeg ar deithiau eraill o Paddington."

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

I osgoi neges Twitter, 3
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 3

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alun Davies y dylai'r Gymraeg gael lle ar drenau newydd Great Western

Dywedodd Alun Davies bod ymateb Great Western yn "hynod siomedig" ac yn "hollol annerbyniol".

Ychwanegodd: "Dylai GWR sicrhau lle i'r Gymraeg ar eu trenau newydd."

I osgoi neges Twitter, 4
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 4

'Testun pryder'

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg bod "diffyg buddsoddiad honedig gan Great Western yn y Gymraeg yn destun pryder".

"Yn 2016 cyflwynodd y Comisiynydd adroddiad i'r Llywodraeth yn argymell gosod safonau ar gwmniau tren," meddai.

"Mae'r Comisiynydd yn parhau i weithio gyda chwmnïau trenau ac eraill i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg ar sail wirfoddol, ac yn trafod pryderon y cyhoedd gyda nhw."