Â鶹ԼÅÄ

Leanne Wood: 'Mae gen i gefnogaeth aelodau Plaid'

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ennillodd Plaid Cymru bedair sedd yn Etholiad Cyffredinol 2017

Mae Leanne Wood wedi dweud mai hi fydd arweinydd Plaid Cymru pan ddaw etholiadau'r Cynulliad yn 2021.

Yn ôl Ms Wood mae ganddi gefnogaeth yr aelodau - ac mae ei chyd Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth "yn deall nad yw swydd yr arweinydd yn wag."

Ym mis Awst fe y byddai'n ystyried sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth petai Ms Wood yn rhoi'r gorau i'r swydd.

Mae Plaid Cymru yn cwrdd y penwythnos hwn yng Nghaernarfon ar gyfer eu Cynhadledd Flynyddol ac ar drothwy'r gynhadledd fe ddywedodd Ms Wood:

"Wrth gwrs fe allai fe [Rhun ap Iorwerth] fod yn arweinydd, ac fe allai rhai eraill fod hefyd.

"Rwy'n falch iawn fy mod yn arwain plaid sydd â thalent anhygoel ac mae gennym nifer o bobl allai berfformio'r rôl o arwain y blaid hon, ond mae Rhun yn deall hefyd nad swydd arweinydd yn wag."

"Rwy'n ymgeisio i fod yn Brif Weinidog yn 2021 ac mae gen i gefnogaeth yr aelodaeth i fod yn ymgeisydd."

"Gwella ein perfformiad"

Yn flaenorol nad oedd Plaid Cymru yn perfformio cystal ag y gallai, ac roedd angen i'r blaid "wella eu gêm" yn y Cynulliad.

Pan ofynnwyd iddi am sylwadau Mr Thomas, dywedodd Leanne Wood: "Fe allwn bob amser wella ein perfformiad, pob un ohonom ar unrhyw adeg yn ein bywydau.

"Felly ydyn, ni'n chwilio bob amser i godi ein gêm."

Gwrthododd Ms Wood awgrym fod Etholiad Cyffredinol 2017 yn "drychinebus" i'r blaid.

Dywedodd fod perfformiad Plaid Cymru mewn etholiad a gynhaliwyd ar fyr rybudd yn "nodedig."

Ychwanegodd mai camddehongliad o'r hyn ddigwyddodd fyddai galw'r ymgyrch etholiadol yn fethiant.

"Pan edrychwch chi ar y dystiolaeth, dyw hynny ddim yn gywir.

"Fe enillon ni sedd ychwanegol, felly roeddwn i'n eitha' hapus gyda'r canlyniad mewn gwirionedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dylai Plaid Cymru daro bargeinion gyda'r Ceidwadwyr, yn ôl yr Arglwydd Wigley

Yn y cyfamser, mae llywydd anrhydeddus y blaid, Yr Arglwydd Wigley, wedi dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar y blaid i daro bargeinion gyda Llywodraeth Geidwadol San Steffan er mwyn gwneud "gwahaniaeth ymarferol" i gyfleoedd Cymru.

Mewn erthygl ym mhapur y Daily Post, dywedodd y cyn arweinydd y dylai Aelodau Seneddol y blaid fanteisio ar ddiffyg mwyafrif y Torïaid yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn "gweithio'n ymarferol ar ran pleidleiswyr".

Mae Ms Wood wedi gwrthod cydweithio â'r Ceidwadwyr ar sawl achlysur.

Yn gynharach eleni, , wedi i aelodau blaenllaw o'r Blaid wrthod rhoi sel bendith i weinyddiaeth oedd yn cynnwys cynghorwyr Ceidwadol.

Aildrefnu ACau

Ac ar drothwy cynhadledd y blaid yng Nghaernarfon mae Ms Wood wedi aildrefnu cyfrifoldebau ACau'r blaid, gan ddweud eu bod nawr yn "cydfynd yn well" gyda rolau gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae'r prif newidiadau yn gweld Dai Lloyd yn troi'n llefarydd y blaid ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus, tra bo Steffan Lewis yn ychwanegu cyllid i'w rôl yn delio â materion allanol fel Brexit.

Bydd y llefarydd ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, hefyd yn delio â chwaraeon, oedd dan ofal Neil McEvoy cyn iddo gael ei wahardd gan grŵp y blaid yn y Cynulliad.