Â鶹ԼÅÄ

Enwi Neil Hamilton yn arweinydd UKIP yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
neil hamilton

Mae Neil Hamilton wedi cael ei benodi yn arweinydd UKIP yng Nghymru gan arweinydd newydd y blaid ym Mhrydain, Henry Bolton.

Margot Parker fydd y dirprwy arweinydd, gyda Jim Carver a Mike Hookem yn ddirprwyon cynorthwyol.

Hyd yn hyn roedd Mr Hamilton wedi cael ei ddisgrifio fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP eu bod yn deall y bydd gan Mr Hamilton gyfrifoldebau ehangach o fewn y blaid yng Nghymru o hyn allan.

Yn fuan wedi i UKIP ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad yn 2016, fe gipiodd Neil Hamilton arweinyddiaeth y blaid yn y Senedd o ddwylo'r arweinydd ar y pryd, Nathan Gill, yn dilyn pleidlais fewnol.

O ganlyniad fe wnaeth Mr Gill adael grŵp y blaid ac mae bellach yn eistedd fel aelod annibynnol o'r Cynulliad.