Â鶹ԼÅÄ

Cynnig cymorth i gymdeithasau tai yn sgil Brexit

  • Cyhoeddwyd
Tai cymdeithasol yn cael eu codi yn Nhrelai
Disgrifiad o’r llun,

Tai cymdeithasol yn cael eu codi yn Nhrelai yng Nghaerdydd

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi'r sector tai cymdeithasol drwy gynnig benthyciad gwerth £50m.

Ym mis Awst dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru y gallai ansicrwydd am berthynas Prydain â'r Undeb Ewropeaidd .

Yn sgil hynny roedd ofnau na fyddai miloedd o dai cymdeithasol yn cael eu codi.

Mae'r Principality felly wedi penderfynu cefnogi'r sector drwy gyflwyno benthyciadau a fydd yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 15 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Nicola Eynon: "Mae'n gynllun sydd wedi fy helpu i a'r mab"

'Nid pawb all fforddio morgais'

Mae Nicola Eynon o Gaerdydd wedi bod yn rhentu ei thÅ· gan gymdeithas dai am tua 20 mlynedd.

Dywedodd bod y rhent yn isel, ond yn fwy na hynny, fod y cynllun wedi rhoi sefydlogrwydd iddi.

Ychwanegodd petai'n rhentu gan rywun preifat y byddai hi wastad yn poeni a fyddai'r rhent yn codi neu a fyddai'r tÅ· yn cael ei werthu.

Mae'r sicrwydd o rentu gan gymdeithas dai wedi rhoi'r hyder iddi fynd i brifysgol, meddai.

"Does dim rhaid i fi boeni a fydd gen i do uwch fy mhen ac mae fy rhent yn sefydlog," meddai.

"Saith mlynedd yn ôl mi es i brifysgol i astudio polisi tai. Roeddwn yn gallu fforddio hynny a thalu fy rhent drwy gael benthyciad myfyriwr. Mae'r cyfan wedi rhoi sail gadarn i fi a'm mab."

Mae cymdeithasau tai yn cynllunio i godi 13,000 o dai fforddiadwy yng Nghymru erbyn 2021.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC), sy'n cynrychioli landlordiaid tai cymdeithasol, wedi bod yn ceisio sicrhau benthyciadau o £200m i ariannu'r cyfan.

Y gobaith oedd cael hynny o Fanc Buddsoddiadau Ewrop ond bellach mae hynny'n edrych yn llai tebygol ers i'r DU ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ym mis Awst dywedodd y banc bod buddsoddiadau'r DU wedi gostwng ond eu bod wedi arwyddo nifer o gytundebau ers Erthygl 50.

'Cymorth mawr'

Dywedodd prif weithredwr CCC, Stuart Ropke: "Mae colli arian Banc Ewrop yn hwyr yn y dydd yn bryder - roedd y termau a oedd yn cael eu cynnig yn eithriadol o ddrud.

"Mae'r hyn mae Principality yn ei gynnig o gymorth mawr ac yn ei helpu i gyrraedd y nod."

Yr hyn sy'n gymorth i gymdeithasau tai yw bod y benthyciadau yn cael eu talu 'nôl dros gyfnod o 15 mlynedd - telerau sy'n anodd eu cael gan fenthycwyr eraill.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y Principality, Peter Hughes, fod aelodau'r gymdeithas am iddyn nhw fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

"Mae tai yn fuddsoddiad tymor hir ac angen cyllid tymor hir ac rwy'n teimlo fod hyn yn gyfle i gydweithio," meddai.

"Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'n nod ni fel cymdeithas adeiladu."

Dyw'r arian gan y Principality ddim yn llenwi'r bwlch yn llwyr gan fod CCC yn ceisio codi £200m.

Yr her nawr yw dod o hyd i weddill yr arian os yw Cymru i gyrraedd ei nod ym maes tai cymdeithasol.