'Angen economi gref' yng nghadarnleoedd y Gymraeg

Disgrifiad o'r fideo, 'Cyfrifoldeb' ar y llywodraeth i weithredu, yn ôl Gweinidog y Gymraeg

Dylai pobl ifanc o gadarnleoedd yr iaith gael y cyfle i aros yna i adeiladu gyrfa a magu teulu, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.

Dywedodd Alun Davies y dylai'r llywodraeth ymyrryd er mwyn atal yr allfudiad o Sir Gar, Ceredigion a Gwynedd i ardaloedd mwy trefol.

Byddai hynny, meddai, yn un ffordd o sicrhau "sail economaidd egnïol" yn y Gymru wledig.

Er bod cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghefn gwlad, dywedodd fod cynnydd wedi bod yn y nifer yng Nghaerdydd.

'Angen yr opsiwn'

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg - bron i ddwbl y nifer presennol - erbyn 2050.

Ond fe wnaeth y Cyfrifiad diwethaf ddangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith yn y gogledd a'r gorllewin.

Dywedodd Mr Davies wrth raglen Sunday Politics Wales mai rôl y llywodraeth oedd hi i sicrhau fod pobl yn medru byw yn y cymunedau hynny, "drwy ymyrryd" os oedd angen.

"Beth sydd angen i ni ei wneud, fel llywodraeth, yw sicrhau fod gan bobl yr opsiwn a'r gallu i fyw a chael gyrfaoedd a chartrefi a theuluoedd yn y cymunedau hynny yn Sir Gar, Ceredigion a Gwynedd," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae angen gwell swyddi yn y gogledd a'r gorllewin os am gadw siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith, meddai Alun Davies

Dywedodd y gweinidog fod y llywodraeth yn meddwl am ffyrdd o helpu pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig.

"Un o'r pethau rydyn ni'n ceisio'i wneud yw sicrhau fod gennym ni sail economaidd egnïol yn yr ardaloedd hynny, ac mae hynny'n sgwrs 'dyn ni'n ei gael ar hyn o bryd," meddai.

Mae ymgyrchwyr wedi galw am leoli mwy o swyddi sector gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig fel ffordd o geisio atal y llif o bobl ifanc sydd yn symud i'r dinasoedd.

Bydd Sunday Politics Wales i'w gweld ar Â鶹ԼÅÄ One Wales am 11:00 ddydd Sul 15 Hydref.