Prifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru wedi marw

Mae'r brifathrawes groenddu cyntaf yng Nghymru, Betty Campbell, wedi marw yn 82 oed.

Fe gadarnhaodd ei gŵr, Rupert, ei bod wedi marw yn ei chartref yn Nhre-biwt, Caerdydd toc wedi 19:00 ddydd Gwener ar ôl bod yn sâl am rai misoedd.

Dywedodd fod y teulu "dal mewn sioc".

Fe wnaeth Mrs Campbell, oedd hefyd yn gyn-gynghorydd yn ward Tre-biwt, dderbyn MBE am ei gwasanaeth i'w chymuned ac i addysg.

Cafodd Rachel Elizabeth Campbell - neu Betty - ei geni yng Nghaerdydd i dad o Jamaica a mam Gymreig o Farbados.

Rhwng 1960 ac 1999 bu'n gweithio fel athrawes a phrifathrawes yn ardaloedd amlethnig y ddinas, gyntaf yn Llanrhymni ac yna yn Ysgol Gynradd Mount Stuart.

Ffynhonnell y llun, Betty Campbell

Disgrifiad o'r llun, Betty Campbell gyda'i rhieni Simon a Honora

Roedd hi hefyd yn aelod o'r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.

Dywedodd ei pherthynas a'i ffrind agos, Neil Sinclair, gafodd ei fagu gyda hi yn hen ardal Porth Teigr yn Nhre-biwt, ei fod dal mewn sioc o glywed y newyddion.

Ffynhonnell y llun, Neil Sinclair

Disgrifiad o'r llun, Betty (Johnson ar y pryd) gyda'i ffrind Neil Sinclair, awdur a hanesydd sydd yn dal i fyw yn Nhre-biwt

"Gallwch edrych ar Betty Campbell o sawl ongl - aelod o fy nheulu, y gymuned, ffigwr gwleidyddol, cynghorydd, a phennaeth croenddu cyntaf Cymru," meddai.

"Roedd hi'n rhywun oedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y gymuned."

Bu Mrs Campbell yn aelod o'r Bwrdd Cysylltiadau Hil rhwng 1972 ac 1976, a bu hefyd yn llywodraethwr ar Â鶹ԼÅÄ Cymru rhwng 1980 ac 1984.

Ffynhonnell y llun, WalesOnline

Disgrifiad o'r llun, Y Tywysog Charles yn ymweld ag ysgol Mrs Campbell ar gyfer Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi yn 1994

Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli i fod yn brifathrawes pan ddywedodd wrth un o'i hathrawon yn yr ysgol am ei huchelgais, dim ond iddi hi ddweud y "byddai'r problemau'n anorchfygol".

"Roeddwn i eisiau [i'r disgyblion] gael eu hysbrydoli. Un o fy nhasgau oedd i'w haddysgu nhw am hanes pobl dduon pan ddes i'n bennaeth ar Mount Stuart," meddai.

'Chwalu rhwystrau i eraill'

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Trist iawn clywed am farwolaeth Betty Campbell, prifathrawes groenddu cyntaf Cymru, rydw i'n meddwl am ei theulu a'i ffrindiau.

"Roedd Betty yn arloeswr go iawn ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill o gefndir du neu leiafrif ethnig arall oedd eisiau dilyn gyrfa mewn addysg a meysydd eraill yng Nghymru.

"Er iddi glywed yn yr ysgol y byddai ei huchelgais o fod yn brifathrawes yn amhosib, fe lwyddodd yn ei breuddwyd drwy weithio'n galed a dyfalbarhau, gan chwalu'r rhwystrau er mwyn i eraill allu dilyn yn olion ei thraed."